Iwan Price
Enw
Iwan Price
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Prif Arbenigedd
Cyngor technegol llaeth
Cyngor ar reoli busnes
Ymgynghorydd cymwys FACTS - cyngor ar reoli gwrtaith a phridd a gwaith cynllunio maetholion.
Meincnodi
Cynllunio Olyniaeth a Mentrau ar y Cyd
Sector
Llaeth, Bîff, Defaid, Busnes, Cydymffurfiaeth âr a Glaswelltir
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol? • Mae Iwan wedi gweithio fel arbenigwr llaeth ers dros 25 mlynedd, gan weithio rhanbarth De Cymru.
Mae'n rhoi cyngor ariannol a thechnegol i'r sector llaeth.
Darparu cyngor ariannol sy'n cynnwys dadansoddi perfformiad busnes, meincnodi, trafod opsiynau ar gyfer y dyfodol a chreu rhagolygon penodol blwyddyn ymlaen llawn, gan gynnwys llif arian.
Mae cyngor technegol yn ymwneud â maeth llaeth ar lefel uchel.
Fel ymgynghorydd cymwys FACTS, mae Iwan yn gallu llunio cynlluniau rheoli maetholion ar gyfer busnesau fferm.
Mae Iwan yn helpu unigolion i gyflawni eu dyheadau busnes ac mae’n gymwys i asesu gofynion fferm a thir i chwilio am atebion i’w heriau.
Gall Iwan arwain newydd-ddyfodiaid a busnesau teuluol sydd wedi’u sefydlu trwy ddatblygu mentrau ar y cyd a chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Gyda gwybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Rheoliadau Llygredd Dŵr ac ystod eang o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru gall Iwan roi cymorth a budd ariannol i'ch busnes.
Gan fod Iwan wedi gweithio fel swyddog maes i Lywodraeth Cymru am gyfnod yn cynnal archwiliadau fferm, mae ganddo ddealltwriaeth dda o bolisi a chydymffurfiaeth.
Fel cyn-ddarlithydd yng Ngholeg Amaethyddol Gelli Aur, mae Iwan bob amser yn hapus i rannu ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o feysydd pwnc penodol.
Mae Iwan yn frwd dros helpu busnesau amaethyddol i ddatblygu a’u herio i symud y busnes yn ei flaen.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- Cyfarwyddwr ac un o sylfaenwyr CARA Wales Ltd.
- BSc (Anrh) mewn Amaeth
- Aelod o Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain
- Ymgynghorydd cymwys FACTS
- 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant Amaethyddol.
- Cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Ymgynghorydd Fferm y flwyddyn y Farmers Weekly.
- Paratoi cyflwyniadau ar gyfer sefydliadau a grwpiau trafod yn rheolaidd.
Awgrym /Dyfyniad
“ Gwnewch y pethau syml yn arbennig o dda”