John Crimes

Enw

John Crimes

Lleoliad

Ceredigion

Prif Arbenigedd

Cyngor Technegol yn ymwneud â llaeth, bîff a defaid
Rheolaeth amaethyddol a busnes
Maeth
Ymgynghorydd cymwys FACTS - rheoli pridd, cynllunio maetholion a chyngor ar wrtaith
Cynllunio strategaeth
Meincnodi
Olyniaeth a Mentrau ar y Cyd

Sector

Llaeth, Bîff, Defaid, Busnes, Deddfwriaeth, Tir Âr a Glaswelltir.

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

Mae gan John dros 30 mlynedd o brofiad ymgynghori a chynghori.

Gan ei fod yn ffermwr bîff a defaid ei hun, mae John yn gweithio gyda ffermwyr ar lawr gwlad ac mae ganddo empathi a dealltwriaeth fawr o’r materion dan sylw.

Mae cwsmeriaid John yn gwerthfawrogi'r agwedd ymarferol y gall ei rhoi i'w busnesau ffermio.

Mae’n arbenigo mewn darparu cyngor technegol yn ymwneud â llaeth, bîff a defaid.

Fel ymgynghorydd cymwys FACTS mae John yn darparu cyngor ar wrtaith, rheoli pridd a chynllunio maetholion.

Mae John yn awyddus i helpu unigolion i fodloni eu dyheadau busnes ac mae’n gymwys wrth asesu gofynion fferm a thir i chwilio am atebion i’w heriau tymor byr a thymor hwy.

Darparu cyngor ar reoli busnes, meincnodi a chynllunio strategaeth i gymysgedd o fusnesau ffermio.

Gyda llawer iawn o wybodaeth am fentrau ar y cyd a chynllunio ar gyfer olyniaeth, mae John yn frwdfrydig i weithio ac annog y rhai sy'n ymuno â'r diwydiant yn ogystal â theuluoedd sy'n delio ag olyniaeth.

Gyda gwybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Rheoliadau Llygredd Dŵr ac ystod eang o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gall John roi cymorth a budd ariannol i'ch busnes.

Mae John hefyd yn darparu cyfoeth o wybodaeth am gynlluniau gwarant fferm.

Mae ymchwilio i arferion a chynnyrch ffermio newydd a rhoi cyngor arnynt i gwsmeriaid fel y gwêl orau yn rhywbeth y mae John yn mwynhau ei wneud.

Mae John yn frwd dros amaethyddiaeth Cymru ac mae’n mwynhau gweld busnesau’n datblygu, yn gwella ac yn ymateb i’r heriau sy’n eu hwynebu.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Cyfarwyddwr ac un o sylfaenwyr CARA Wales Ltd.
  • BSc (Anrh) mewn Amaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid
  • Aelod o Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain
  • Ymgynghorydd cymwys FACTS
  • 30 mlynedd o brofiad fel Ymgynghorydd Amaethyddol.
  • Paratoi cyflwyniadau a gweithdai ar gyfer sefydliadau a grwpiau trafod yn rheolaidd.
  • Cwblhau adolygiad o'r Prosiect Llaeth a'r Amgylchedd ar ran y Ganolfan Datblygu Llaeth.
  • Cwblhau adroddiad cost porthiant ar gyfer KW Agriculture gan edrych ar ddewisiadau porthiant amgen.
  • Datblygu’r drefn hyfforddiant ar gyfer pob ymgynghorydd newydd gyda Promar International a darparu’r hyfforddiant hwnnw dros nifer o flynyddoedd. 

Awgrym /Dyfyniad

“Cadwch bethau’n Syml – mesur, meincnodi a rheoli”.