Marged Jones

Enw

Marged Jones

Lleoliad

Ceredigion

Prif Arbenigedd

Rheolaeth ariannol busnes.
Ymgynghorydd cymwys FACTS - cyngor ar reoli gwrtaith a phridd a gwaith cynllunio maetholion.
Meincnodi
Cyngor ar y Taliad Sengl a rheoliadau trawsgydymffurfio

Sector

Llaeth, Bîff, Defaid, Tir âr a Glaswelltir

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

Mae Marged wedi gweithio fel ymgynghorydd amaethyddol ers 7 mlynedd, gan weithredu yn rhanbarth De Orllewin Cymru.

Fel ymgynghorydd cymwys FACTS, mae Marged wedi darparu nifer fawr o gynlluniau rheoli maetholion ar gyfer busnesau fferm dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae'n gallu rhoi cyngor ar bridd a gwrtaith.

Mae Marged yn paratoi cyfrifon rheoli a gwasanaethau cadw cyfrifon ar gyfer nifer o gleientiaid rheolaidd.

Mae hi wedi ymgymryd â nifer o brosiectau meincnodi o fewn y diwydiant.

Mae gan Marged wybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Glastir a Rheoliadau Llygredd Dŵr.

Ers dechrau’r flwyddyn mae Marged wedi darparu cyngor a chanllawiau manwl i ffermwyr ar Lyfrau Gwaith a Mapiau Risg Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Rheoliadau Llygredd Dŵr newydd.

Wrth ei bod yn ferch fferm laeth ac wedi gweithio yn y diwydiant ar hyd ei hoes, mae’n frwd dros ddatblygiad y diwydiant amaethyddol, rheolaeth busnes a rhoi cyngor i ffermwyr.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Amaeth
  • Ymgynghorydd cymwys FACTS
  • BTEC Lefel 3 Amaethyddiaeth
  • Dysgwr Diwydiannau'r Tir y Flwyddyn (2014) Lantra
  • Academi Amaeth Iau, Cyswllt Ffermio (2014)    
  • Myfyriwr y Flwyddyn Amaeth (2014), Coleg Gelli Aur
  • Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio (2021)

Awgrym /Dyfyniad

“Mewn sefyllfa anodd, rhowch siwgr yn eich te bob amser!”.