Juliet Anderson
Enw
Juliet Anderson
Lleoliad
Sir Fynwy a Sir Frycheiniog
Prif Arbenigedd
Tir Âr a Glaswelltir
Sector
Rheoli Tir Glas a Chnydau Technegol
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Mae gan Juliet dros 20 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant.
Mae Juliet yn gweithio bob dydd ar ffermydd yn cynghori ffermwyr ar faterion âr a glaswelltir
Mae’n gyfathrebwr da sy'n gwrando ar ffermwyr ynglŷn ag unrhyw faterion y maent yn dod ar eu traws.
Ymgynghorydd cymwys FACTS, yn darparu cyngor ar wrtaith, cyngor ar reoli pridd a gwaith cynllunio maetholion.
Wrth weithio ar brosiectau Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, mae’n deall bod anghenion gwahanol ffermwyr yn amrywio ac mae’n ystyried hyn ac mae’n gallu egluro pynciau mewn ffordd sy’n ddealladwy i ffermwyr.
Mae gradd a Meistr mewn Gwyddor cnydau a phridd wedi rhoi gwybodaeth fanwl i Juliet o'r pwnc.
Mae Juliet wedi arfer cynnal cyfarfodydd unigol, cyfarfodydd grŵp ac wedi arfer siarad mewn digwyddiadau mawr ar amrywiaeth o bynciau âr, a hefyd mae hi wedi arfer dangos gwahanol symptomau clefydau grawn.
Gan fod ganddi ddealltwriaeth dda o'r rheoliadau Rheoli llygredd newydd, mae'n gallu cynnig cyngor ac atebion i helpu ffermwyr i reoli hyn ar eu ffermydd.
Mae bod yn rhan o dreialon Amaethyddol ar gnydau âr yn caniatáu profiad da o fathau a chemegau newydd.
Mae hi’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chynhyrchwyr cemegol a hefyd cynrychiolwyr y Diwydiant.
Mae Juliet yn frwd iawn dros ei rôl yn y diwydiant amaethyddol ac mae’n rhagweithiol wrth gadw ar y blaen â unrhyw newidiadau yn y diwydiant trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- Gradd mewn Gwyddor Cnydau a Rheolaeth
- Gradd Meistr mewn Rheolaeth a Gwyddor Cnydau
- Ymgynghorydd Cymwys BASIS
- Ymgynghorydd Cymwys FACTS
- Cymwysterau PA1 a PA6A
Awgrym /Dyfyniad
“Nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach nac yn amherthnasol”.