Marged Jones
Enw
Marged Jones
Lleoliad
Ceredigion
Prif Arbenigedd
Rheolaeth ariannol busnes.
Ymgynghorydd cymwys FACTS - cyngor ar reoli gwrtaith a phridd a gwaith cynllunio maetholion.
Meincnodi
Cyngor ar y Taliad Sengl a rheoliadau trawsgydymffurfio
Sector
Llaeth, Bîff, Defaid, Tir âr a Glaswelltir
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
Mae Marged wedi gweithio fel ymgynghorydd amaethyddol ers 7 mlynedd, gan weithredu yn rhanbarth De Orllewin Cymru.
Fel ymgynghorydd cymwys FACTS, mae Marged wedi darparu nifer fawr o gynlluniau rheoli maetholion ar gyfer busnesau fferm dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae'n gallu rhoi cyngor ar bridd a gwrtaith.
Mae Marged yn paratoi cyfrifon rheoli a gwasanaethau cadw cyfrifon ar gyfer nifer o gleientiaid rheolaidd.
Mae hi wedi ymgymryd â nifer o brosiectau meincnodi o fewn y diwydiant.
Mae gan Marged wybodaeth helaeth am gynlluniau cymorth gan gynnwys BPS, Glastir a Rheoliadau Llygredd Dŵr.
Ers dechrau’r flwyddyn mae Marged wedi darparu cyngor a chanllawiau manwl i ffermwyr ar Lyfrau Gwaith a Mapiau Risg Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Rheoliadau Llygredd Dŵr newydd.
Wrth ei bod yn ferch fferm laeth ac wedi gweithio yn y diwydiant ar hyd ei hoes, mae’n frwd dros ddatblygiad y diwydiant amaethyddol, rheolaeth busnes a rhoi cyngor i ffermwyr.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Amaeth
- Ymgynghorydd cymwys FACTS
- BTEC Lefel 3 Amaethyddiaeth
- Dysgwr Diwydiannau'r Tir y Flwyddyn (2014) Lantra
- Academi Amaeth Iau, Cyswllt Ffermio (2014)
- Myfyriwr y Flwyddyn Amaeth (2014), Coleg Gelli Aur
- Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio (2021)
Awgrym /Dyfyniad
“Mewn sefyllfa anodd, rhowch siwgr yn eich te bob amser!”.