21 Awst 2023

 

Gyda chyfleoedd cyffrous o’n blaenau i ffermwyr Cymru arallgyfeirio i faes garddwriaeth, bydd Cyswllt Ffermio a Lantra Cymru yn rhoi cymorth i ddod â’r rheini’n fyw yn sioe fasnach arddwriaeth ryngwladol flaenllaw’r DU fis nesaf.

Bydd Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn bresennol yn y parth addysg yn y digwyddiad yn Four Oaks, Swydd Gaer, a gynhelir ar 5 a 6 Medi, tra bydd Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel sy'n ceisio cynghori ar sut y gall busnesau garddwriaeth newydd a phresennol fynd i’r afael â phrinder sgiliau drwy brentisiaethau, cynlluniau hyfforddiant a bwrsariaethau.

Dywedodd Lorraine Powell, Swyddog Datblygu Garddwriaeth yn Lantra Cymru, a fydd yn y sioe, fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i annog twf yn y sector garddwriaeth dros y ddwy flynedd nesaf.

“Gyda’r newidiadau sydd ar y gweill i systemau ffermio gyda chyflwyniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae cyfleoedd garddwriaethol yn cael eu hystyried fel opsiwn ymarferol naill ai fel dull arallgyfeirio ar gyfer fferm neu fel menter gyflenwol a all ychwanegu gwerth at y tir, nid yn unig o ran cynhyrchiant ond hefyd o ran manteision bioamrywiaeth,” meddai.

Gyda’r weledigaeth honno, rhaid mynd i’r afael â her prinder sgiliau er mwyn caniatáu i’r sector ffynnu, ychwanegodd Lorraine.

“Bydd y drafodaeth banel yn Sioe Fasnach Four Oaks yn ceisio tynnu sylw at y materion hyn yn y diwydiant a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd,” meddai.

Bydd Kevin Thomas yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar y pwnc hwn ddydd Mawrth 5 Medi, dan gadeiryddiaeth Rachael Forsyth, uwch ohebydd yn Wythnos Garddwriaeth, gyda chyd-banelwyr Holly Youde, o Association of Professional Lanscapers, a Rupert Keys, o Task Academy.

Gall rhaglen arddwriaeth newydd Cyswllt Ffermio gynorthwyo mentrau garddwriaethol masnachol Cymru i ddatblygu sgiliau trwy gyrsiau hyfforddiant technegol ac ymarferol, gweithdai, ymweliadau astudio a mentora un i un.

Gellir cysylltu â’r tîm ar horticulture@lantra.co.uk neu byddant wrth law ar y stondin yn Four Oaks lle bydd cyfle i gwrdd â chyflenwyr, cymdeithasau masnach a chyrff y diwydiant o bob rhan o’r sector.

Am ragor o wybodaeth am Sioe Fasnach Four Oaks, cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd