"Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r pwnc ‘Iechyd Meddwl mewn Amaethyddiaeth’. Bydd yn rhoi awgrymiadau ar sut i nabod arwyddion iechyd meddwl gwael ynoch chi'ch hun ac eraill. Bydd hefyd yn gwella’ch dealltwriaeth o rai o achosion problemau iechyd meddwl.
Yn ogystal â hyn, byddwn yn rhoi ichi’r cyngor a’r adnoddau sydd ar gael yn ogystal â chanllawiau sylfaenol ar sut i ddelio ag argyfwng iechyd meddwl.
Mae'r rhai sy'n gweithio ym myd amaeth mewn perygl o iechyd meddwl gwael. Mae’n bwysig felly ein bod yn datblygu ein dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl er mwyn helpu ein hunain a'r rhai o'n cwmpas."
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]