Jason Tomlin

Enw

Jason Tomlin

Lleoliad

Sir Benfro

Prif Arbenigedd

  • Ynni Adnewyddadwy
  • Gweithrediadau

Sector

Ynni Adnewyddadwy, Gweithrediadau, Marchnata, Recriwtio

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Jason yw perchennog a Chyfarwyddwr busnes adnewyddadwy MCS achrededig am y cyfnod hiraf yng Nghymru, Green Warmth a sefydlwyd yn 2007.
  • Wedi’i fagu ym mhentref Llangwm, roedd Jason wedi’i amgylchynu gan gymuned ffermio gref a oedd yn gyfoethog mewn traddodiad. Ei swydd gyntaf oedd hel tatws ac nid yw byth wedi anghofio am y swydd honno!
  • Ers dros 15 mlynedd, mae Jason wedi bod yn gweithio'n agos gyda pherchnogion busnesau bach a chanolig i ddarparu atebion busnes cynaliadwy effeithiol gan arbed arian ei gleientiaid.
  • Mae Jason yn cydnabod bod pob prosiect adnewyddadwy yn unigryw, felly mae ei arddull agored a thryloyw yn darparu dull ymgynghorol a arweinir gan ganlyniadau.
  • Fel unigolyn cadarnhaol sy’n dda gyda phobl, mae Jason yn awyddus i rannu ei wybodaeth a'i set sgiliau ag eraill. Ei 5 prif gryfder allweddol yw strategaeth, dadansoddol, perthynas, ffocws a chymorth unigol.
  • Gwaith ymgynghorydd yw cynghori, ond hefyd mae Jason yn cydnabod yn bwysicach fyth bod gallu gwrando a deall yr heriau sydd gan ei gleientiaid yn ffurfio cynllun hirdymor llawer mwy effeithiol ar gyfer twf.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Enillydd Unigolyn Busnes y Flwyddyn Sir Benfro.
  • Ymddiriedolwr Elusen Sefydliad Paul Sartori ers 2013.
  • Cadeirydd Manwerthu Sefydliad Paul Sartori.
  • Wedi sicrhau twf gwerth miliynau o bunnoedd i fusnesau Bach a Chanolig a chwmnïau o’r radd flaenaf.
  • Busnes adnewyddadwy wedi'i achredu gan yr MCS ar gyfer Pympiau Gwres, Solar PV a storio batris sy'n caniatáu mynediad i gynllun grantiau'r llywodraeth (BUS).

Awgrym /Dyfyniad

“Mae'n bryd sefyll dros y sawl sy'n gwneud, y cyflawnwr, yr un sy'n ceisio gwneud rhywbeth a'i wneud” - Vince Lombardi