Emma Turnock
Enw
Emma Turnock
Lleoliad
Canolbarth Cymru/Dwyrain Cymru
Prif Arbenigedd
Carbon, Pridd, Rheoli Maetholion
Sector
- Llaeth
- Bîff
- Defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
-
Mae Emma wedi gweithio fel ymgynghorydd amaethyddol am 5 mlynedd ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams. Mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau ffermio gan gynnwys llaeth, âr, dofednod, bîff a defaid. Mae gan Emma hefyd brofiad ymarferol o fferm laeth ei theulu.
-
Yn gynnar yn ei gyrfa, datblygodd Emma ddiddordeb mewn pridd a maetholion, gan ei harwain i ennill cymwysterau FACTS a BASIS mewn Pridd a Dŵr. Mae Emma yn gweithio gyda nifer o ffermwyr i helpu i gynhyrchu cymaint o borthiant â phosibl trwy reoli pridd a maetholion yn effeithiol ynghyd â helpu i leihau colledion amgylcheddol ac economaidd.
-
Gydag angerdd am gynaliadwyedd, mae Emma yn gweithio gyda ffermwyr unigol a grwpiau o ffermwyr i gyfrifo eu hôl troed carbon blynyddol a datblygu cynlluniau i helpu i leihau allyriadau sy’n deillio o fentrau ffermio. Datblygir y cynlluniau hyn hefyd i gynyddu effeithlonrwydd, gan helpu i greu busnesau mwy cynaliadwy a phroffidiol.
-
Mae Emma wedi cynorthwyo ffermwyr i gynllunio a bodloni gofynion rheoliadau amgylcheddol (fel Parthau Perygl Nitradau ) ac mae’n gallu darparu canllawiau ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, gan helpu ffermwyr i gydymffurfio â’r rheoliadau.
-
Mae Emma wedi gweithio gyda ffermwyr i baratoi a monitro cyllidebau ynghyd â pharatoi ceisiadau grant llwyddiannus.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
-
Bsc (Anrh) mewn Busnes Amaethyddol
-
Ymgynghorydd cymwys FACTS
-
Rheolaeth Pridd a Dŵr BASIS
Awgrym /Dyfyniad
Awgrym /Dyfyniad “I wneud amaethyddiaeth yn gynaliadwy, mae’n rhaid i’r tyfwr allu gwneud elw.”
“Mae'r genedl sy'n dinistrio ei phridd yn ei dinistrio ei hun.”