26 Hydref 2023

 

Mae sicrhau lle y mae galw mawr amdano ar Academi Amaeth Cyswllt Ffermio nid yn unig wedi ehangu gwybodaeth Lea Williams a’i hagwedd tuag at amaethyddiaeth ond hefyd wedi sicrhau swydd newydd iddi yn annisgwyl.

Roedd Lea, sydd wedi ei magu ar fferm bîff a defaid yn Llansannan, Sir Ddinbych, newydd gwblhau ei chwrs mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon pan aeth ar ddwy daith breswyl gyda Rhaglen Iau'r Academi Amaeth, un ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd a’r llall yn yr Iseldiroedd.

Tra roedd ar y daith breswyl yng Nghymru, a oedd yn golygu peth amser ar fferm laeth, y clywodd am swydd wag gyda’r busnes hwnnw.

Fe wnaeth hi ymgeisio am y swydd, ac mae hi bellach yn gweithio fel gofalwr buches yn y fuches laeth sydd â 700 o wartheg ar fferm Cefnamlwch, ac mae hi wrth ei bodd. Llwyddodd i gryfhau ei chais drwy ddefnyddio Storfa Sgiliau i gael mynediad at ei chofnod DPP, a oedd yn darparu rhestr o’r cyrsiau a’r digwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu hyd yma.

“Nid oeddwn eisiau mynd i’r brifysgol, roeddwn i’n teimlo y gallwn i elwa mwy o ddysgu wrth weithio, felly, roeddwn wrth fy modd yn cael y swydd hon,’’ meddai Lea, a oedd wedi cael profiad o laethyddiaeth wrth weithio’n rhan-amser ar fferm leol.

Yn ei swydd newydd gall roi ar waith rai o’r sgiliau a ddysgodd ar nifer o gyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio yr oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol, mewn DIY Ffrwythloni Artiffisial (AI), trimio traed gwartheg, sganio gwartheg a sgorio symudedd gwartheg, pob un wedi’u hariannu 80%.

Mae ei chyflogwr newydd hefyd yn annog staff i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant. Mae Lea yn bwriadu cofrestru ar gyfer cyrsiau pellach sydd gan Cyswllt Ffermio sy'n ymwneud â phwnc a fydd yn ei helpu yn ei swydd newydd ar fferm laeth.

“Hoffwn edrych ar rai o'r cyrsiau sydd ar gael ar ochr dechnegol ffermio,'' meddai.

Roedd plentyndod Lea wedi’i drwytho mewn ffermio, gyda’i rhieni, Meurig ac Iona, a’i dwy chwaer iau, Efa, sy’n 16 oed, a Non, sy’n 14 oed.

Mae’r teulu’n rhedeg diadell o 750 o ddefaid Mynydd Cymreig a 70 o wartheg sugno Limousin Du ar 400 hectar o dir mynydd ac ucheldir. Maen nhw hefyd yn prynu 60 o loi British Blue croes o wartheg llaeth i mewn y flwyddyn ac yn eu magu fel gwartheg stôr.


Wrth i Lea edrych ymlaen at ei gyrfa yn y dyfodol, y mae'n gobeithio y gallai gynnwys  rhedeg ei busnes ei hun un diwrnod, mae'n dweud bod y wybodaeth a gafodd ar Raglen Iau’r Academi Amaeth wedi bod yn amhrisiadwy. 

Iddi hi, rhai o nodweddion amlwg yr ymweliad â'r Iseldiroedd oedd taith o amgylch fferm sy’n arnofio ar wyneb y dŵr yn Amsterdam, cysyniad a luniwyd o amgylch dileu’r angen i gludo bwyd i fwydo poblogaeth y ddinas.

Roedd gweld sut mae ffermwyr y wlad honno’n gwneud y gorau o’u hadnoddau presennol yn ddefnyddiol hefyd.

“Ni fyddai ffermwr llaeth gyda 60 o wartheg byth yn meddwl am ehangu’r fuches ond yn hytrach yn meddwl am ychwanegu gwerth at yr allbwn o’r hyn sydd ganddynt yn barod,” eglura Lea.

“Roedd hefyd yn ddiddorol ymweld â 'gofal dydd llaeth' lle gallai plant y ddinas fynd i ofal dydd ar fferm a gallu bod ymhlith anifeiliaid fferm, ac un arall ar gyfer cleifion dementia.''

Mae gan Lea daith breswyl â Llangrannog ar y gweill hefyd, lle mae'n edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau eraill y rhaglen eto.

“Mae yna 10 merch ar y cwrs sy'n braf iawn,'' meddai. “Roeddwn i'n adnabod rhai o'r gogledd yn barod ond rydw i bellach wedi gwneud cysylltiadau gyda phobl o’r de hefyd.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter