13 Tachwedd 2023
Mae buddsoddi £30,000 mewn mesurau i atal drudwy o siediau gwartheg yn wariant mawr i fusnes ffermio llaeth yng Nghymru ond mae’n cyfrifo cyfnod ad-dalu o ddau fis yn unig mewn arbedion ar gostau porthiant yn unig.
O fis Hydref i fis Mawrth, mae Fferm Nantgoch ger Croesoswallt yn cael eu poeni gan ddrudwy yn chwilota am india corn a grawn arall yn y dogn cymysg cyfan sy’n cael ei fwydo i’r fuches o 770 o wartheg llaeth.
Cyn i'r teulu Jones ddechrau ar raglen o waith y llynedd i ddiogelu adeiladau gyda phaneli rhwyll wifrog wedi'u weldio amcangyfrifwyd bod tua 50,000 - 100,000 o ddrudwy yn helpu eu hunain i bedair tunnell o fwyd bob dydd, ar gost o £15,000 y mis.
Roedd hefyd colledion ariannol yn sgil llai o gynhyrchiant llaeth - hyd at ddau litr y fuwch y dydd oherwydd dwysedd ynni is yn y dogn sy’n cael ei bwydo i’r gwartheg o ganlyniad i ysglyfaethu, gydag effeithiau negyddol ar ffrwythlondeb o ganlyniad.
Dywedodd Bryn Jones, sy’n ffermio gyda’i wraig, Bev, a’i fab, Mathew, wrth ffermwyr a fynychodd ddigwyddiad agored Cyswllt Ffermio yn Nantgoch yn ddiweddar fod yr arian a wariwyd hyd yma ar fesurau i atal drudwy wedi bod yn fuddsoddiad gwerth chweil.
“Mae’n llawer o arian i’w ddarganfod ac mae gennym ni 20% arall o’r adeiladau i’w wneud o hyd ond dyma’r unig ffordd y gallwn amddiffyn y porthiant a’r gwartheg rhag y pla,” meddai.
Roedd diogelu llwybrau porthiant y tu allan i adeiladau wedi bod yn un o’r heriau mwyaf ond cyflawnwyd hyn gyda chanopïau tebyg i gawell y gellir eu codi oddi ar y llwybr pan fydd y wagen fwydo yn gollwng y dogn a’i winsio’n ôl i’w lle pan fydd y gwartheg yn bwyta.
Un o'r rhwystrau nesaf yw amddiffyn y clamp india corn ar adegau pan nad oes angen mynediad.
“Nid yw'n mynd i fod yn hawdd ond mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei wneud,'' meddai Mr Jones.
Mae graffiau a gynhyrchwyd gan y milfeddyg fferm, Rob Edwards o Cain Vets, yn dangos gostyngiadau mewn cynhyrchiant llaeth yn ystod y misoedd ble mae’r pla ar ei uchaf, gyda cholled posibl o 4.4% mewn llaeth sy’n pennu faint o egni sydd yn y llaeth wedi’i gywiro (ECM) yn ystod y misoedd hynny o’i gymharu â’r cyfnod pan fo’r drudwy wedi mudo, er y gall ffactorau eraill megis hyd y dydd a gostyngiad yn ansawdd silwair india corn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ddylanwadu ar hynny hefyd.
Rhybuddiodd Mr Edwards hefyd am risgiau iechyd o’r drudwy fel fectorau posibl clefydau heintus fel Salmonella Typhimurium.
Mae lliniaru'r risg y bydd TB mewn gwartheg yn lledaenu o foch daear sy’n cael mynediad at borthiant yn flaenoriaeth arall yn Nantgoch. Ar hyn o bryd mae TB yn y fuches ar ôl chwe blynedd glir.
Dywedodd Mr Edwards y gall defnyddio camerâu fod yn ffordd dda o gadarnhau presenoldeb moch daear a hefyd pa rannau o’r fferm y maen nhw'n ymweld â nhw.
Argymhellodd y dylid gorchuddio giatiau mynediad gyda thun neu fwrdd gydag uchder o 1.5m o leiaf, dim mwy na 7.5cm uwchben y ddaear.
Sicrhewch fod ardaloedd y gall da byw gael mynediad iddynt heb byllau o ddŵr llonydd oherwydd gall bacteria TB fyw yn y dŵr hwn am hyd at 12 mis, ychwanegodd Mr Edwards.
Mae'r cynnyrch yn Nantgoch wedi'u storio’n llawn ac mae'r hyn sy'n mynd i mewn i'w dogn cywasgedig TMR, i gynhyrchu'r cynnyrch blynyddol cyfartalog o 12,530 litr o odro deirgwaith y dydd, yn hanfodol i gynnal perfformiad ac iechyd.
Mae bwydo cywasgedig wedi atal rhag gwahanu dwysfwyd oddi wrth y porthiant ac wedi helpu gyda threuliadwyedd y deunyddiau crai.
Mae’r dogn yn cael ei lunio gan faethegydd y fferm, Neil Blackburn, o Kite Consulting, sy’n cynnwys 24kg o silwair india corn a 15kg o silwair glaswellt, y ddau yn bwysau ffres, 6.7kg o fara, 2.5kg o gymysgedd, 3kg o ddwysfwyd protein 18%, 0.5kg o soia wedi’i dyfu’n gynaliadwy, ac 8kg o ddŵr, gan ddarparu cyfanswm cymeriant pwysau ffres o 62.2kg i gynhyrchu 40 litr.
Daw tua 2,800 litr o’r cynnyrch blynyddol o borthiant tyfwyd ar y fferm, gyda 198 hectar (ha) o india corn yn cael ei dyfu a 445ha a silwair porfa yn cael ei gynhyrchu o system pum toriad ar gyfartaledd o 11.2 MJ ME/Kg DM.
“Mae porthiant o safon yn gwbl hanfodol yn y math yma o system,'' meddai Mr Blackburn, a hefyd cysondeb.“ Y rheol gyffredinol yw osgoi newid os yw'r dogn yn gweithio,'' dywedodd.
Mae rhwymwr calsiwm wedi'i gynnwys yn nogn buwch yn y cyfnod trosiannol ar ôl profi problemau gydag ansawdd colostrwm ac achosion clinigol o dwymyn.
Ar gost o £0.70/y fuwch/y dydd am dair wythnos, neu £3,400/tunnell fe gyfaddefodd Mr Jones nad oedd yn opsiwn rhad ond dywedodd ei fod yn hynod effeithiol a bod arbediad ar gost bolws calsiwm nad ydynt bellach eu hangen. Y bwriad yw symud yn ôl i system DCAB mewn amser i leihau costau.
Mae protocolau clampio da yn golygu nad oes angen rhwymwr ar hyn o bryd i leddfu llwydni a gwenwynau ffwng ond mae Mr Blackburn yn argymell cynnwys yn y dogn lle bu problemau; mae'r rhain yn costio tua £0.06 y fuwch y dydd.
“Mae cynnal profion am wenwynau ffwng penodol yn gostus ac mae cymaint o amrywiaeth ohonynt fel mai, fy nghyngor i yw rhoi rhwymwr ynddo a byddwch naill ai’n gweld canlyniad mewn ymateb llaeth mewn 21 diwrnod neu fel arall, mae'n sicr yn gweithio, lle mae ei angen.''
Mae stoc iachach yn golygu llai o ddefnydd o wrthfiotigau, uchelgais y dylai pob ffermwr llaeth a da byw fod yn ymdrechu i’w gyflawni, meddai Rhys Jones, arweinydd technegol Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol/Responsible Antimicrobial Use).
Dywedodd wrth ffermwyr am y rhaglen waith sydd gan Arwain DGC gyda nifer o ffermydd a gyda’r diwydiant ceffylau i dreialu ffyrdd o leihau defnydd gwrthficrobaidd.