Geraint Hughes

Enw

Geraint Hughes

Lleoliad

Cymru

Prif Arbenigedd

Technoleg Amaethyddol

Sector

Pob un

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae Geraint yn cydnabod nad oes neb yn deall busnes yn well na'r rhai sy'n gweithio ynddo. Mae'n credu mai ei swydd wrth ymweld â busnes yw deall beth sy'n ei lywio ymlaen, gofyn cwestiynau da i hybu meddwl, ystyried gwahanol opsiynau ac awgrymu ffyrdd ymlaen ar gyfer y busnes.
  • Mae ei brofiad yn dweud wrtho fod angen i'r tîm y tu ôl i fusnes fod yn rhan o'r tîm er mwyn troi cyngor yn weithred.
  • Gall deall pa dechnolegau newydd all ychwanegu gwerth at fusnes fod yn heriol. Mae rôl Geraint yn cefnogi'r defnydd o dechnoleg newydd a fydd naill ai'n gwneud bywyd yn haws, yn lleihau costau, yn gwella ansawdd, yn cyflawni safonau lles uwch, neu'n gwneud y busnes yn amgylchedd gwaith mwy diogel.
  • Bydd yn gweithio gyda busnesau i edrych ar ffyrdd o leihau neu hyd yn oed gael gwared ar rwystrau i fabwysiadu gwell arloesiadau.
  • Yn gyfathrebwr rhagorol, yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Geraint yn gwerthfawrogi’r angen i osgoi gor-gymhlethu technoleg a chanolbwyntio ar ba werth y gall ei gynnig, yn hytrach na sut mae’n gweithio.
  • Mae Geraint wedi bod yn ffodus i deithio ac ymweld â busnesau ffermio, garddwriaeth a choedwigaeth mewn dros 15 gwlad, gan arsylwi a dysgu am werth arloesiadau newydd.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc mewn Amaeth-goedwigaeth

  • Ysgolor Nuffiel

  • Hwylusydd cymwys

  • Arweinydd meddwl o ran datblygiad a defnydd technoleg mewn ardaloedd gwledig, ac arloeswr adnabyddus gyda rhestr o'r “rhai cyntaf.”

  • Sefydlodd Lafan Consultancy Group sy'n cynnig ystod o wasanaethau ymgynghori yn y sector Bwyd-Amaeth.

  • Sefydlodd ' Dewin.Tech', cwmni newydd Technoleg Amaethyddol, a enillodd wobr 'Cychwyn Gorau Cymru' yn 2021 yn y categori 'Technoleg Symudol a Datblygol'.

  • Wedi cefnogi dros 100 o grwpiau yng nghefn gwlad Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf i gydweithio a chyflawni’n well.

  • Wedi ymgymryd â nifer o swyddi gwirfoddol mewn sefydliadau a chyrff cymunedol.
    Yn ystyried cyrraedd copa pob mynydd yng Nghymru mewn blwyddyn fel un o'i lwyddiannau mwyaf balch.

Awgrym /Dyfyniad

“Ni allaf ddysgu dim i neb, Gallaf ond gwneud iddynt feddwl.”
Socrates.