Richard Cumming

Enw

Richard Cumming

Lleoliad

Caerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Prif Arbenigedd

Technoleg Amaethyddol

Sector

  • Cyngor Milfeddygol Arbenigol
  • Iechyd a Lles Anifeiliaid, Technegol a Bio-ddiogelwch

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Cafodd Richard ei fagu yn gweithio ar ffermydd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd gweithio gyda systemau bîff a llaeth wedi helpu Richard i ddeall y gwaith sydd ynghlwm wrth roi’r newidiadau y mae’n eu hawgrymu ar waith.
  • Ar hyn o bryd, mae Richard yn gweithio'n agos gyda'i gleientiaid llaeth a bîff i ddarparu cyngor pwrpasol i helpu'r ffermydd hyn  ffynnu.
  • Mae cost cynhyrchu yn allweddol i’r diwydiannau Llaeth a bîff a chyfyngu ar golledion ariannol trwy aneffeithlonrwydd trwy wella arferion hwsmonaeth a bwydo yw angerdd Richard.
  • Mae Richard yn rhedeg ei bractis milfeddygon ei hun ac mae’n gwerthfawrogi’r heriau y mae perchnogion busnes yn eu hwynebu bob dydd.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Aelod o goleg brenhinol y milfeddygon.

  • Blynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda ffermydd llaeth a bîff.

  • Cyrsiau amrywiol ar Mastitis, Maeth, cloffni, a ffrwythlondeb bîff a chynnyrch llaeth.

Awgrym /Dyfyniad

“Rhaid i ni fesur yn gyntaf cyn y gallwn ymdopi.” Mae casglu data a meincnodi yn ein galluogi i weld lle gallwn wella ein busnesau ac olrhain y newidiadau hyn. Heb ddata rydym yn y niwl.