Pam fyddai Dafydd yn fentor effeithiol
- Mae’r Dr Dafydd Jones yn wenynwr a dyn busnes llawn amser difrifol! Mae'r hyn a oedd yn hobi – er yn hobi 30 mlynedd – pan ymddeolodd yn gynnar o yrfa academaidd hir, bellach yn ymrwymiad llawn amser. Mae'r cwmni llwyddiannus, Gwenyn Môn, a sefydlodd gyda'i wraig Dawn yn 2019 o'u tyddyn yn Llanddaniel, nid yn unig yn cynhyrchu mêl artisan premiwm ar raddfa fasnachol, ond mae'n cynnig hyfforddiant ar 'bob peth yn ymwneud â gwenyn' hefyd – sydd ddim yn syndod i’r cyn-athro profiadol hwn.
- Astudiodd Dafydd ecoleg, gwyddor pridd ac entomoleg ym Mhrifysgol Llundain. Ei swydd gyntaf oedd fel gwyddonydd ymchwil gydag adran IBERS Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl derbyn BSc, Ph.D a TAR, aeth yn ei flaen i addysgu, gan ddod yn bennaeth bioleg mewn ysgolion uwchradd yn Wrecsam ac yna Llangefni.
- Mae'n defnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ganddo fel athro, ynghyd â 30 mlynedd o gadw gwenyn, i ddarparu profiadau, digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi pwrpasol arobryn o ystafelloedd dosbarth cadw gwenyn a gwenynfa hyfforddi.
- Mae nifer y cyfranogwyr yn cael eu cadw'n isel, gan sicrhau bod pob unigolyn yn elwa o ddysgu ac yn symud ymlaen yn gyflym. Mae'r busnes yn denu twristiaid sy'n chwilio am 'brofiad' unigryw yn ogystal â myfyrwyr gwenyna a ffermwyr neu arddwriaethwyr sy'n chwilio am lif incwm ychwanegol. A chyda chyfleusterau dan do pwrpasol, nid yw ansicrwydd ein tywydd ni yng Nghymru byth yn achos i aildrefnu!
- Yn angerddol am gyflwr gwenyn mêl a bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, addysg wyddoniaeth a chysylltu â natur, mae Dafydd, sy’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, yn eiriolwr perswadiol ac ysbrydoledig i bawb sydd â diddordeb mewn cadw gwenyn yn fasnachol.
- Ynghyd â'i wraig, mae Dafydd yn delio â’r holl waith marchnata a gwerthu, mae ganddo wefan ac mae'n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n edrych ymlaen at ei rôl fel mentor Cyswllt Ffermio ar y pwnc sydd agosaf at ei galon. P'un a ydych chi eto i roi bodiau eich traed yn y farchnad hon sy'n ehangu, neu eisoes yn wenynwr, disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei ehangder sylweddol o wybodaeth a brwdfrydedd!
Y busnes fferm presennol
- Tyddyn wyth erw sy'n cynnwys llyn un erw a choetir sy'n gyfeillgar i wenyn mêl
- 100 cwch o heidiau dof, cynhyrchiol ac iach wedi'u gwasgaru dros bum lleoliad ar Ynys Môn, sy'n cynhyrchu tua 1,000 pwys o fêl bob blwyddyn.
- Mae cynhyrchion mêl a gwenyn, gan gynnwys canhwyllau a thoddiadau cwyr, yn cael eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid, mewn marchnadoedd a ffeiriau crefft.
- Diadell gaeedig o 12 dafad pedigri Sir Amwythig ar gyfer pori dan goed
- Ffrwythau a llysiau wedi'u tyfu ar gyfer y bwrdd
- Menter Gwely a Brecwast a glampio moethus 'The Sweet Escape Retreat'
Cymwysterau/cyflawniadau/profiad
- BSc 2:1 (Anrh) Biotechnoleg Planhigion, Coleg Gwy, Prifysgol Llundain
- PhD ‘Ailgylchu radiocaesiwm mewn rhywogaethau allweddol o blanhigion ucheldirol’, Prifysgol Aberystwyth
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – TAR (Uwchradd) Prifysgol Bangor
- Aelod o Gymdeithas Cadw Gwenyn Conwy
Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes:
"Cynlluniwch ymgyrch ar gyfer y flwyddyn i ddod. Er enghraifft, penderfynwch ar strategaeth i gynyddu nifer eich heidiau neu eich cynnyrch mêl neu strategaeth reoli i atal colledion heidio.
"Mae mwy nag un ffordd o wneud pethau. Cwestiynwch bopeth rydych chi’n ei glywed a'i ddarllen! Byddwch yn barod i arbrofi, rhoi cynnig ar bethau, a sticiwch at yr hyn sy'n gweithio i chi."