Pam fyddai Dafydd yn fentor effeithiol

  • Mae’r Dr Dafydd Jones yn wenynwr a dyn busnes llawn amser difrifol! Mae'r hyn a oedd yn hobi – er yn hobi 30 mlynedd – pan ymddeolodd yn gynnar o yrfa academaidd hir, bellach yn ymrwymiad llawn amser. Mae'r cwmni llwyddiannus, Gwenyn Môn, a sefydlodd gyda'i wraig Dawn yn 2019 o'u tyddyn yn Llanddaniel, nid yn unig yn cynhyrchu mêl artisan premiwm ar raddfa fasnachol, ond mae'n cynnig hyfforddiant ar 'bob peth yn ymwneud â gwenyn' hefyd – sydd ddim yn syndod i’r cyn-athro profiadol hwn. 
  • Astudiodd Dafydd ecoleg, gwyddor pridd ac entomoleg ym Mhrifysgol Llundain. Ei swydd gyntaf oedd fel gwyddonydd ymchwil gydag adran IBERS Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl derbyn BSc, Ph.D a TAR, aeth yn ei flaen i addysgu, gan ddod yn bennaeth bioleg mewn ysgolion uwchradd yn Wrecsam ac yna Llangefni.  
  • Mae'n defnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ganddo fel athro, ynghyd â 30 mlynedd o gadw gwenyn, i ddarparu profiadau, digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi pwrpasol arobryn o ystafelloedd dosbarth cadw gwenyn a gwenynfa hyfforddi. 
  • Mae nifer y cyfranogwyr yn cael eu cadw'n isel, gan sicrhau bod pob unigolyn yn elwa o ddysgu ac yn symud ymlaen yn gyflym. Mae'r busnes yn denu twristiaid sy'n chwilio am 'brofiad' unigryw yn ogystal â myfyrwyr gwenyna a ffermwyr neu arddwriaethwyr sy'n chwilio am lif incwm ychwanegol. A chyda chyfleusterau dan do pwrpasol, nid yw ansicrwydd ein tywydd ni yng Nghymru byth yn achos i aildrefnu! 
  • Yn angerddol am gyflwr gwenyn mêl a bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd cynaliadwy, addysg wyddoniaeth a chysylltu â natur, mae Dafydd, sy’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, yn eiriolwr perswadiol ac ysbrydoledig i bawb sydd â diddordeb mewn cadw gwenyn yn fasnachol.  
  • Ynghyd â'i wraig, mae Dafydd yn delio â’r holl waith marchnata a gwerthu, mae ganddo wefan ac mae'n weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n edrych ymlaen at ei rôl fel mentor Cyswllt Ffermio ar y pwnc sydd agosaf at ei galon. P'un a ydych chi eto i roi bodiau eich traed yn y farchnad hon sy'n ehangu, neu eisoes yn wenynwr, disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei ehangder sylweddol o wybodaeth a brwdfrydedd! 

Y busnes fferm presennol

  • Tyddyn wyth erw sy'n cynnwys llyn un erw a choetir sy'n gyfeillgar i wenyn mêl 
  • 100 cwch o heidiau dof, cynhyrchiol ac iach wedi'u gwasgaru dros bum lleoliad ar Ynys Môn, sy'n cynhyrchu tua 1,000 pwys o fêl bob blwyddyn.  
  • Mae cynhyrchion mêl a gwenyn, gan gynnwys canhwyllau a thoddiadau cwyr, yn cael eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid, mewn marchnadoedd a ffeiriau crefft.  
  • Diadell gaeedig o 12 dafad pedigri Sir Amwythig ar gyfer pori dan goed
  • Ffrwythau a llysiau wedi'u tyfu ar gyfer y bwrdd 
  • Menter Gwely a Brecwast a glampio moethus 'The Sweet Escape Retreat' 

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad 

  • BSc 2:1 (Anrh) Biotechnoleg Planhigion, Coleg Gwy, Prifysgol Llundain
  • PhD ‘Ailgylchu radiocaesiwm mewn rhywogaethau allweddol o blanhigion ucheldirol’, Prifysgol Aberystwyth
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – TAR (Uwchradd) Prifysgol Bangor
  • Aelod o Gymdeithas Cadw Gwenyn Conwy

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes: 

"Cynlluniwch ymgyrch ar gyfer y flwyddyn i ddod. Er enghraifft, penderfynwch ar strategaeth i gynyddu nifer eich heidiau neu eich cynnyrch mêl neu strategaeth reoli i atal colledion heidio. 

"Mae mwy nag un ffordd o wneud pethau. Cwestiynwch bopeth rydych chi’n ei glywed a'i ddarllen! Byddwch yn barod i arbrofi, rhoi cynnig ar bethau, a sticiwch at yr hyn sy'n gweithio i chi."