29 Ionawr 2024

 

Ar dyddyn ger arfordir Cymru, mae llysiau organig sy’n cael eu tyfu ar ddwy erw o dir yn bwydo dwsinau o deuluoedd lleol, un o don newydd o fusnesau garddwriaeth ar raddfa fach sy’n dod i’r amlwg ledled Cymru.

Mae’r llysiau’n cael eu tyfu gan y cyn-gynhyrchydd teledu Dr Matt Swarbrick a’i wraig, Jenny, ac yn cael eu dosbarthu’n wythnosol mewn bocsys i tua 80 o gartrefi, i dderbynwyr sy’n aelodau o fenter debyg i amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned (CSA).

Dechreuodd y cyfan yn 2018, ar ôl i Matt gael cyllid gan Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ymweld â ffermydd ar raddfa fach yn Ewrop sydd wedi croesawu paramaethu i gynhyrchu bwyd.

Roedd eisoes yn tyfu llysiau ar Fferm Henbant, ger Caernarfon, ar gyfer ei deulu a'i ffrindiau ei hun ond fe wnaeth yr ymweliad hwn ei ysgogi i dyfu'n fwy.

“Newidiodd Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio y sefyllfa’n fawr o ran yr hyn yr oeddem yn ei wneud, rhoddodd yr hyder i ni neidio i mewn gyda dwy droed’’ meddai Matt.

Fel newydd-ddyfodiad heb unrhyw gefndir teuluol ym myd amaeth, mae’n cyfaddef bod llawer yr oedd angen iddo ei ddysgu am arddwriaeth, a dyna lle'r oedd Cyswllt Ffermio yn gallu camu i mewn eto.

“Roedd staff Cyswllt Ffermio o gymorth mawr wrth ein cyfeirio at y gwasanaethau priodol.

“Roedd cael digwyddiadau ar y fferm, fel safle ffocws Cyswllt Ffermio, hefyd yn rhoi’r cyfle i ni fanteisio ar y cyfle i drafod gwahanol fodelau busnes a ffyrdd o wneud pethau gyda thyfwyr eraill.

“Roedd cael y gyfres honno o ddysgu yn help mawr i lywio’r hyn yr oeddem yn ei wneud oherwydd, er y gallem fod wedi dod o hyd i rai pethau mewn llyfrau neu fideos, mae cymaint na fyddech yn gwybod oni bai eich bod wedi cael eich magu ym myd amaeth.''

Yr hyn a oedd yn deillio o hynny oedd cynllun bocsys llysiau, sydd yn ôl Matt “wedi'i seilio'n fras'' ar y model CSA.

Bob dydd Iau wrth iddi oleuo, gellir ei ddarganfod yn cynaeafu'r llysiau, sy'n cael eu danfon o fewn oriau i gartrefi lleol, gan greu system fwyd leol wydn a diogel gyda chadwyn gyflenwi fyr a syml.

“Fe ddechreuon ni gyda radiws mwy o gwsmeriaid ond gan fod y galw wedi cynyddu yn agosach at adref, rydym ni wedi gallu ei wneud yn fwy lleol, gan leihau milltiroedd bwyd ymhellach,” eglura Matt.

Mae'r cynllun bocsys yn un o ystod o fentrau adfywiol yn Henbant, mae mentrau eraill yn cynnwys dofednod sy’n cael crwydro’r borfa ac amaeth-goedwigaeth, ac mae'n un sy'n rhoi boddhad mawr i Matt.

“Fe wnaethon ni ofyn i’n hunain ar y dechrau beth yw’r peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud gyda thir sy’n dda i’ch cymuned a tyfu llysiau organig da oedd hyn, mae’n syml, dyna beth ddylai llawer o ffermwyr eraill fod yn ei wneud.''

Mae cael “perthynas gadarnhaol” gyda Cyswllt Ffermio wedi bod o gymorth mawr, ychwanega. “Mae rhywsut yn rhoi hyd yn oed mwy o goel i'r hyn rydym ni'n ei wneud.''

Yn ogystal â manteisio ar wasanaethau rhad ac am ddim Cyswllt Ffermio neu wasanaethau wedi’u hariannu, gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant sgiliau, mae Matt hefyd yn rhoi yn ôl gan ei fod yn Fentor Cyswllt Ffermio.

Trwy'r rhaglen honno mae'n cael ei baru â mentai sydd ar fan cychwyn tebyg i'r man lle'r oedd ef ac yn ceisio creu menter arallgyfeirio ar raddfa fach. 

“Rydym wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd i wneud ein busnes fferm yn fwy cynaliadwy, felly mae'n teimlo'n dda rhannu hynny ag eraill, gan gynnwys y rhai sydd am ddefnyddio dulliau paramaethu neu amaeth-ecolegol,'' meddai Matt.

Ar hyn o bryd, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau meistr ar gyfer ffermwyr a newydd-ddyfodiaid sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio i arddwriaeth.

Ar y thema 'Dechrau Arni gyda Menter Tyfu', mae'r rhain yn archwilio gwahanol fodelau busnes sy'n seiliedig ar arddwriaeth, llwybrau i'r farchnad a phethau i’w hystyried ar gyfer dechrau arni yn y sector.

Bydd un o'r sesiynau hyn yn cael ei chyflwyno gan Tom O'Kane, mentor Cyswllt Ffermio a thyfwr profiadol sydd wedi sefydlu nifer o fentrau garddwriaethol gan gynnwys CSA Cae Tan ym Mhenrhyn Gŵyr.

Cynhelir y dosbarth meistr hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Iau 8 Chwefror. Mae cofrestru ar gael yma.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â hannah.norman@menterabusnes.co.uk 

Trwy ddosbarthiadau meistr, mentoriaeth a’r gwasanaeth cynghori, gall Cyswllt Ffermio helpu ffermwyr i fanteisio ar opsiynau arallgyfeirio a dod o hyd i’r cyfle cywir ar gyfer eu busnes o fewn y sector garddwriaeth, meddai Hannah.

“Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn ymuno â’r sector garddwriaeth yng Nghymru,” meddai.

“Mae yna nifer o gyfleoedd i ffermwyr sydd am arallgyfeirio neu ehangu busnes sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys cynhyrchu llysiau ar raddfa cae, cnydau arbenigol sydd â gwerth uchel, a thwristiaeth garddwriaeth.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn