15 Chwefror 2024

 

Mae bugail o Gymru yn sicrhau bod ganddo’r sgiliau a chymwysterau newydd i ymgymryd â'r heriau sy’n wynebu’r byd amaeth yn y blynyddoedd i ddod.

Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn wynebu cyfnod o newid aruthrol meddai Rhys Jones, sy'n byw yn y Garth, ger Llanfair ym Muallt.

Mae’n gweithio fel bugail ar fferm yr ucheldir sydd â 2,000 o famogiaid ym Mhowys, gan gyfuno’r rôl honno â rhedeg ei ddiadell fach ei hun o ddefaid ar dir rhent a gyrru ar gyfer cludwr da byw.

Mae Rhys, sy’n 33 mlwydd oed, wedi datblygu ystod amrywiol o sgiliau ers iddo adael yr ysgol i weithio ym myd amaeth, a sgiliau a ddysgodd hefyd yn ystod plentyndod wedi’i drochi mewn ffermio; bu ei fam, Eleanor, yn gweithio ar fferm bîff a defaid ei rhieni ac mae ei dad, Medwyn, yn weithiwr fferm.

Hyfforddodd Rhys i ddechrau fel peiriannydd amaethyddol ac yn ddiweddarach treuliodd dymor cynhaeaf yn gweithio yn Seland Newydd ond ei uchelgais oedd creu gyrfa ym myd amaeth yng Nghymru.

“Cymerais swydd wyna un mis Chwefror ac rwyf wedi gweithio gyda defaid ers hynny,'' mae'n cofio.

Gyda’i gefndir, mae sgiliau fferm a gwybodaeth yn dod yn ail natur ond mae’n cydnabod bod mwy i’w ddysgu bob amser, a bod angen tystysgrifau i gyflawni rhai o’r tasgau hynny’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

“Gallwch chi bob amser ddysgu rhywbeth newydd,'' mae'n cydnabod.

Mae Rhys felly wedi gwneud defnydd sylweddol o’r cyrsiau rhad ac am ddim a’r cyrsiau â chymhorthdal sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio.

Gyda chymorth ei swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Gwen Price, cwblhaodd Gynllun Datblygu Personol.

Bu i hyn ei helpu i gofnodi ei gymwysterau a'i sgiliau, nodi nodau hyfforddiant, gosod amcanion hirdymor a nodau tymor byr, a nodi pa gyrsiau hyfforddiant a fyddai'n ei helpu i wella sgiliau presennol, neu ddysgu rhai newydd.

Ers iddo ddechrau ar yr hyfforddiant mae wedi ennill tystysgrif mewn defnyddio dip defaid yn ddiogel, a oedd wedi’i ariannu 80% gan Cyswllt Ffermio, ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau e-ddysgu sydd wedi ei helpu gyda sgorio cyflwr corff defaid, trin da byw, magu lloi, deall dyluniad adeiladau da byw ac awyru a gweithio'n ddiogel gyda thractorau.

“Roedd yn hawdd cael mynediad at yr e-gyrsiau,'' meddai Rhys. “Mae gen i gyfrif BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) ac rwyf wedi cofrestru ar gyfer modiwlau gwahanol drwy hwnnw.''

Mae'r tystysgrifau a enillir yn cael eu storio ar adnodd storio data ar-lein diogel Cyswllt Ffermio, ' Storfa Sgiliau ’ ac fe all gael gafael ar y rhain yn hawdd unrhyw bryd. Gallwch hefyd lawr lwytho adroddiad cyflawn o'ch holl gofnodion mewn un ddogfen.

Yn ogystal â chael y tystysgrifau fel prawf o ddatblygiad proffesiynol parhaus, mae'n defnyddio’r wybodaeth y mae wedi’i hennill yn ddoeth.

“Rydym wedi bod yn ceisio lleihau faint o driniaethau llyngyr rydym yn ei ddefnyddio gyda’r defaid, gan ddefnyddio sgôr cyflwr corff i wneud hynny,'' eglura.

“A phan fyddaf ar ffermydd yn llwytho da byw, mae'r cwrs diogelwch wir wedi gwneud i mi stopio a meddwl sut y gellir gwneud hynny mewn ffordd ddiogel.''

Mae Rhys, sydd â dau o blant ifanc, Amelia, sy’n bump oed, ac Ollie, sy’n ddwy oed, gyda'i bartner, Sophie, yn dweud bod meddylfryd yn bwysig hefyd yn ei fusnes ei hun, gan osgoi sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus bob amser.

Nesaf ar ei restr mae hyfforddiant mewn defnyddio cerbydau pob tirwedd (ATV) yn ddiogel, sydd wedi’i ariannu 40% gan Cyswllt Ffermio. Mae Rhys eisoes wedi cwblhau'r modiwl 
e-ddysgu, 'Gweithio'n Ddiogel gydag ATVs', sydd wedi adnewyddu ei sgiliau presennol, felly mae bellach yn barod i gwblhau'r hyfforddiant wyneb yn wyneb.

“Er nad yw cwmnïau yswiriant yn gofyn am yr hyfforddiant yma ar hyn o bryd, fe allent ofyn am hyn yn y dyfodol,” meddai Rhys.

Gadawodd yr ysgol gydag ond ychydig o gymwysterau, ac nid oedd yr un ohonynt yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth, ac mae hynny wedi atgyfnerthu ei benderfyniad i wneud defnydd doeth o hyfforddiant sgiliau Cyswllt Ffermio.

“Gadewais yr ysgol heb lawer o ddim, felly, rydw i bob amser yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu i lenwi'r bwlch hwnnw.

“Mae ffermio'n newid, does dim un ohonom ni'n gwybod sut fydd yn edrych ymhen pump neu ddeg mlynedd, felly rwy'n meddwl ei bod yn bwysig gwella ein sgiliau, cael yr hyfforddiant a'r cymwysterau a fydd yn helpu os bydd fy sefyllfa waith yn newid rhywdro.''


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyrsiau Cyswllt Ffermio yn helpu i lansio busnes cymorth gyda gwaith swyddfa fferm
10 Ionawr 2025 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites