Dr. Maureen H. Kemp
Enw
Dr. Maureen H. Kemp
Lleoliad
Babell, Sir y Fflint
Prif Arbenigedd
Iechyd y fuches
Sector
- Llaeth
- Bîff
- Defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Magwyd Maureen (Mo) ar fferm fawr yn cadw gwartheg sugno yng Ngogledd-ddwyrain yr Alban, a chymhwysodd fel milfeddyg ym 1996. Yn ogystal â gweithio mewn practis anifeiliaid mawr am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn, mae Mo hefyd wedi bod yn ymwneud â dysgu Myfyrwyr Milfeddygol ac wedi cwblhau gwaith ymchwil pellach i fastitis mewn gwartheg a chlefydau eraill ym maes Iechyd a Chynhyrchiant gwartheg. Mae ganddi hefyd ddiddordeb brwd mewn iechyd diadelloedd, yn enwedig rheolaeth ataliol rhag clefydau. Mae wedi cynnal nifer o gyfarfodydd a gweithdai i ffermwyr. Mae’n rhan o ddarparu asesiadau Cow Compass ar gyfer ffermydd sy’n cyflenwi Ben and Jerrys.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BVMS
- MVM. (Mastitis Buchol)
- PhD (Mastitis Buchol)
- DCHP (Diploma RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg)
Awgrym /Dyfyniad
Mae atal yn well na gwella