Trystan Siôn

Enw

Trystan Siôn

Lleoliad

Gogledd Cymru

Prif Arbenigedd

Cynllunio rheoli maetholion, dadansoddi busnes, ceisiadau grant, Meincnodi, Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol,
Hwyluso grwpiau trafod.

Sector

Bîff, Defaid, Llaeth, Tir âr

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae Trystan wedi gweithio yn y diwydiant amaethyddol ers dros 12 mlynedd ac mae ganddo brofiad ymarferol o ganlyniad i gyfrannu at redeg y fferm deuluol o ddydd i ddydd.
  • Gwybodaeth helaeth am strategaethau a pholisïau amaethyddol ac amgylcheddol a weithredir ledled Cymru gan gynnwys Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol Cymru)
  • Gwybodaeth fanwl am systemau ffermio, yn benodol mentrau bîff a defaid a glaswelltir.
  • Mae Trystan wedi cymhwyso gyda FACTS ac mae ganddo brofiad blaenorol o baratoi a chreu cynlluniau rheoli maetholion.
  • Sgiliau rheoli busnes cryf sydd wedi’u datblygu ymhellach ers dod yn bartner o fewn menter bîff a defaid.
  • Mae Trystan wedi bod yn llwyddiannus gyda nifer o geisiadau am grantiau cyfalaf amrywiol.
  • Mae Trystan yn brofiadol ym maes dadansoddi busnes a gall helpu busnesau i nodi cryfderau a gwendidau.
  • Mae gan Trystan brofiad mewn ôl troed carbon a gall gynnal archwiliadau carbon.
  • Mae Trystan yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • Gradd BSc gydag Anrhydedd mewn Amaethyddiaeth a Busnes o Brifysgol Aberystwyth.
  • Ymgynghorydd cymwys FACTS BASIS
  • 5 mlynedd o brofiad fel perchennog busnes fferm.
  • Aelod cyswllt o BIAC (Sefydliad Ymgynghorwyr Amaethyddol Prydain)
  • Dros 12 mlynedd o brofiad o weithio ar ffermydd sector cymysg.
     

Awgrym /Dyfyniad

“ Deuparth gwaith yw ei gwedd .”