Mae rheoli pla a chwyn yn gemegol (plaladdwyr - pesticides) neu chwynladdwyr (herbicides) yn rhan greiddiol o amaethyddiaeth, diogelwch bwyd ac effeithlonrwydd o’n defnydd o’r tir. Mae’n hwyluso cynhyrchu bwyd yn ddiogel i bobl ac anifeiliaid yn ogystal a chynhyrchu mwy o fwyd o ansawdd uchel. Ond, ar ôl eu gwasgaru ar y tir, mae’r cemegau hyn yn gallu llifo i mewn i ffosydd a nentydd dŵr trwy drwytholchi neu drwy lifo ar draws y tir. Gall hyn  achosi niwed i rywogaethau nad ydyn nhw’n rhan o’r rhywogaethau sydd wedi’u targedu i’w difa yn ogystal ac effeithio ar fywyd gwyllt fel dyfrgwn. Mae hyn yn ei dro yn lleihau bioamrywiaeth ac yn ansefydlogi ecosystemau. Mae rhai plaladdwyr yn gallu arwain at iechyd pobl hefyd. Mae defnyddio y cemegau hyn yn anghywir neu dros gyfnod hir o amser yn achosi iddyn nhw fod yn aneffeithiol yn eu gwaith o ddifa pla neu chwyn. Felly, mae’r pwyslais bellach ar ddefnyddio dulliau sy’n integredig sef Rheoli Pla, Clefydau a Chwyn yn Integredig (Integrated Pest, Disease and Weed Management) (IPDWM) sy’n ddull sy’n gosod pwyslais ar reoli, atal neu gael gwared ar bla a chwyn heb ddefnyddio plaladdwyr cemegol neu chwynladdwyr.


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

New e-learning Modules of the Month
Uned Orfodol: Cloffni mewn Gwartheg
Cloffni mewn gwartheg yw un o'r ffactorau mwyaf blaenllawsy’n
Cloffni mewn Defaid
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar achosion a’r dulliau o atal a thrin