18 Mawrth 2024
Mae fferm bîff yng Nghymru yn gwneud newidiadau i broses rheoli magu lloi er mwyn gwella ei chynaliadwyedd yn y dyfodol.
Mae gan y teulu Jones oddeutu 300 o wartheg bîff, ac maent yn cael lloi o ffermydd llaeth lleol yn ddelfrydol, pan maent tua 10 diwrnod oed.
Mae'r rhain yn cael eu magu mewn grwpiau o 12 mewn corlannau ar wahân mewn sied beiriannau sydd wedi'i haddasu ar Fferm Graianfryn, fferm bîff a defaid 121 hectar (ha) y teulu ger Llanfachraeth, Caergybi.
Yn ystod y cyfnod pori cânt eu troi allan ar laswellt tua phythefnos ar ôl diddyfnu ar system bori cylchdro.
Dywed Gerallt, sy’n ffermio gyda’i wraig, Hâf, a’i rieni, Alun a Rhiannon, fod iechyd a pherfformiad lloi yn allweddol i broffidioldeb yn eu busnes, ac i uchelgais y teulu i leihau’r defnydd o wrthfiotigau cymaint â phosibl.
Mewn ymgais i gyflawni hyn a gwella effeithlonrwydd cyffredinol, mae'r teulu Jones yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect fferm ffocws Ein Ffermydd.
Mae'r prosiect yn defnyddio technoleg fel cymorth i gynnal iechyd, gyda thagiau y gellir eu hailddefnyddio wedi'u gosod ar loi sy'n casglu ac yn monitro eu symudiad a'u tymheredd.
Mae synwyryddion lleithder a thymheredd yn cael eu defnyddio i fonitro'r amgylchedd ym mhob corlan i gynorthwyo gyda phenderfyniadau rheoli.
Mae newidiadau eraill, dan arweiniad y milfeddyg Dyfrig Williams o Filfeddygon y Wern, yn cynnwys creu llochesi gyda byrnau gwellt mewn corlannau i amddiffyn rhag y gwynt a thymheredd oerach.
Mae teganau cyfoethogi amgylcheddol hefyd wedi'u cyflwyno, gan gynnwys peli a thegan arall ar ffurf seren sy’n cael eu dangos i atal arferion fel sugno’r bogail.
Cyflwynwyd gwahanol fesurau ym mhob corlan, a bydd un gorlan, lle na fu unrhyw newidiadau, yn gweithredu fel rheolydd.
Mae’r busnes yn gwerthu gwartheg i Morrisons neu Kepak ar ôl 17-24 mis, yn dibynnu ar y brid a’u cyfradd twf, gan dargedu pwysau marw o 300-330kg.
Mae tua 20ha o haidd yn cael ei dyfu fel porthiant i'r gwartheg ac mae gwndwn meillion coch yn cael ei sefydlu eleni i gynhyrchu silwair sy’n cynnwys llawer o brotein.
“Ni fydd angen i ni brynu protein i mewn ar gyfer y TMR y flwyddyn nesaf,” mae Gerallt yn rhagweld.
Mae amser pesgi yn allweddol i effeithlonrwydd y system - po gyflymaf y gellir pesgi anifail, yr isaf yw'r gost, a'i effeithlonrwydd carbon, meddai.
Mae lleihau faint o wrthfiotigau a ddefnyddir yn uchelgais allweddol hefyd.
“Os yw anifail yn iach, ni fydd angen gwrthfiotigau, ein huchelgais yw rhoi'r gorau i'w defnyddio yn gyfan gwbl,” meddai Gerallt.
“Mae'n daith hir, ond gyda phrosiect Cyswllt Ffermio rydym yn cymryd camau i'r cyfeiriad cywir.''
Os hoffwch chi am ddysgu mwy am reoli lloi, cymerwch olwg ar ein cwrs Iechyd, Lloches a Rheoli Lloi, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i'ch helpu i ofalu am y llo yn ei fisoedd cynnar, neu, gallwch gysylltu â ganolfan wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 am ragor o wybodaeth.