Pam fyddai Peredur yn fentor effeithiol?
- Roedd Peredur Owen (30) bob amser yn gobeithio y byddai'n rhedeg busnes ffermio ryw ddydd yn hytrach na gweithio i rywun arall. Yn 2019, gwireddwyd y freuddwyd honno diolch i’w rôl fel ffermwr cyfran menter ar y cyd ar fferm bîff a defaid 570-erw ger Llanymddyfri a chymorth gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio.
- Ar ôl ennill ei BSc mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Harper Adams, roedd Peredur yn falch iawn o gael ei rôl gyntaf fel hyfforddai rheoli graddedig i gwmni prosesu cig rhyngwladol mawr.
- Ar ddiwedd y rhaglen ddwy flynedd, roedd yn awyddus i ddychwelyd i ochr ymarferol amaethyddiaeth. Ar ôl clywed am gyfle ffermio cyfran ger Llanymddyfri, ymgeisiodd a bu’n ffodus i sicrhau’r rôl. Roedd y perchennog tir a'r newydd-ddyfodiad yn barod i fynd â'u trafodaethau i'r lefel nesaf yn fuan.
- Trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio, cawsant fynediad at becyn integredig o hyfforddiant, mentora, cymorth busnes a chyngor cyfreithiol arbenigol, wedi'u teilwra i'w gofynion personol a busnes penodol. Erbyn dechrau 2019, roedd y trefniant wedi’i ffurfioli, gan roi fframwaith cadarn i’r ddwy ochr.
- Symudwch y cloc ymlaen i 2024 ac mae Peredur bellach yn helpu i reoli a rhedeg y busnes fferm llwyddiannus hwn. Mae’r busnes wedi newid dros y pum mlynedd diwethaf ac erbyn hyn mae ganddo fuches o 180 o wartheg godro croesfrid a diadell o tua 1,000 o famogiaid EasyCare. Mae Peredur a'i ddyweddi yn byw mewn tŷ a ddarperir ar y fferm.
- Prif yrrwr y busnes yw gwneud y gorau o borthiant trwy system pori cylchdro sy’n gwneud y defnydd gorau o laswelltir ac sy’n cadw costau mewnbynnau i’r lleiafswm – prosiect a yrrwyd gan y ddau barti – wedi’i gyfuno â’r elfen menter ar y cyd, a arweiniodd at ddewis y fferm fel un o hen safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio.
- Peredur sy’n gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith, gyda'r holl benderfyniadau rheolaethol yn cael eu gwneud ar y cyd â'r perchennog tir. Mae'n pwysleisio bod cyfathrebu da yn hollbwysig, gyda chyfarfodydd rheolaidd yn ymdrin nid yn unig â systemau o ddydd i ddydd ond perfformiad busnes a chynllunio hirdymor hefyd.
- Os ydych chi eisiau dysgu mwy am fentrau ar y cyd o safbwynt newydd-ddyfodiaid ifanc, disgwyliwch gael eich ysbrydoli a'ch annog os dewiswch Peredur fel eich mentor. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac fe welwch ef yn eiriolwr brwd dros y trefniant cynyddol boblogaidd hwn
Busnes fferm presennol
- Mae Peredur yn ffermio cyfran ar ddaliad 570 erw ger Llanymddyfri.
- 180 o wartheg bîff godro croesfrid sy’n cael eu prynu i mewn fel lloi wedi’u diddyfnu a’u tyfu i 450kg cyn cael eu gwerthu ymlaen i unedau pesgi.
- 1,000 o famogiaid EasyCare, wedi'u marchnata trwy Dunbia ar gyfer ystod 'Taste the Difference' Sainsbury's.
- Cyflwynwyd system pori cylchdro yn 2019 sydd wedi lleihau effeithiau amgylcheddol, wedi gwella a gwneud y gorau o laswelltir ac wedi cadw costau mewnbwn i’r lleiafswm.
- Pan fydd amser yn caniatáu, mae Peredur hefyd yn darparu gwasanaethau contractio ar gyfer godro, wyna a chneifio rhan-amser.
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- BSc Amaethyddiaeth (Prifysgol Harper Adams)
- Cyn-aelod o Fwrdd Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru
- Tystysgrif Lles Anifeiliaid – Achrediad Prifysgol Bryste
- Tystysgrif Cneifio Blue Seal
- Gweithredu a Gwirio HACCP QQI Lefel 5
- Lefel III Diogelwch Bwyd
- Hen Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio
- Cyn-fyfyriwr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2019
- Ysgolhaig Hybu Cig Cymru 2018
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Ar gyfer menter ar y cyd lwyddiannus, mae angen bod yn agored, gonest, meddwl yn gydgysylltiedig a chael nodau ac uchelgeisiau cwbl gydnaws.”
“Cadwch eich costau’n gyfredol bob amser, cynhwyswch gynlluniau wrth gefn – gall pethau newid yn gyflym ym myd ffermio – a chanolbwyntiwch ar gynyddu allbynnau heb gyfaddawdu ar safonau.”
“Amgylchynwch eich hun â phobl wybodus, peidiwch ag oedi i rannu heriau gyda ffermwyr eraill o’r un anian, a defnyddiwch Cyswllt Ffermio pryd bynnag y gallwch.”