Mae technoleg yn hanfodol ac mor amrywiol ar draws pob maes, ac nid yw’r defnydd ohoni wrth fonitro bywyd gwyllt yn ddim gwahanol. Gall technoleg nid yn unig gasglu data na fyddem yn gallu ei gael fel arall, megis ymddygiadau a gesglir o luniau camera llwybr a data GPS o aderyn wedi'i dagio, ond mae ganddi hefyd y gallu i alluogi cynulleidfa amrywiol i fonitro a chofnodi bywyd gwyllt, gan ganiatáu i ni gyrraedd llefydd newydd. Ond yn hollbwysig, mae'n ein galluogi i fonitro bywyd gwyllt mewn ffordd sy'n cynorthwyo cadwraeth ac adferiad byd natur yn ehangach. Gellir ymgorffori llawer o'r hyn y byddwch yn ei ddarllen yn y modiwl hwn ar y fferm.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]