Gwella perfformiad y ddiadell

Mae fferm Glyn Arthur, ger Llandyrnog, yn cadw diadell o 650 o famogiaid magu a 200 o ŵyn benyw cyfnewid sy’n cynnwys mamogiaid Cheviot x Texel x mynydd Cymreig. Mae’r rhan fwyaf o’r tir mewn cynllun dim mewnbynnau ac mae’n 160 ha i gyd.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar berfformiad y ddiadell i gynyddu’r canran ŵyna, perfformiad ŵyn cyn ac ar ôl diddyfnu, a gwella iechyd cyffredinol y ddiadell. Trwy’r prosiect, bydd Joseph Angell BVSc MSc DipLSHTM PhD MRCVS o Filfeddygon y Wern yn rhoi mewnbwn ac arweiniad i wella perfformiad atgenhedlu ac iechyd y ddiadell yn gyffredinol. Bydd rhan allweddol o’r prosiect yn canolbwyntio ar eneteg a mireinio canllawiau dethol i’w gweithredu ar y fferm.

Y prif feysydd i ganolbwyntio arnynt yw:

  • Gwella’r ganran sganio 20%>
  • Gwella canran magu 10% o leiaf a fyddai’n cyfateb i tua £2500 o gynnydd mewn elw
  • Nodi problemau iechyd a allai effeithio ar berfformiad y ddiadell – e.e. llyngyr yr iau, parasitiaid a diffygion o ran elfennau hybrin. 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • cynnal ecosystemau gwydn ar y fferm
  • cyfrannu at iechyd a lles anifeiliaid da
  • parhau i warchod tirweddau naturiol