Rheoli coetir fferm: opsiynau ymarferol i’w hystyried

Mae'r tir ar fferm Glyn Arthur mewn dyffryn sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin i lawr o fryngaer Foel Arthur, ac yn rhan o Fryniau Clwyd yn Sir Ddinbych. Mae'r tir yn ymestyn dros y mynydd i'r gogledd, ac i'r de i ddyffryn llai Gales Uchaf. Mae’n gyfanswm o tua 400 erw. Mae tua 30% yn fynydd heb ei wella ac wedi'i led-wella, a 35% yn laswelltir wedi'i wella. Mae peth ohono’n cael ei dorri a pheth yn cael ei bori yn unig. Mae 15% o’r tir yn goetir a choed, ond mae yna hefyd lawer o barcdir hynafol, coed gwrychoedd, a chynefin glaswelltir Coediog allweddol, ynghyd â rhostir a glaswelltir heb ei wella - sy’n brin bellach.

Mae yna lawer o ardaloedd o goed llydanddail a chonwydd, wedi'u ffensio ac yn agored i bori; rhywfaint o goetir llaith, coed parcdir a nifer trawiadol o goed hynafol o sawl rhywogaeth wahanol – Derw, Helyg, Llarwydd, Gwernen a Chnau Ffrengig hen iawn ger Gales Uchaf.

Mae'r clystyrau caeedig o goed yn amrywio o ran rhywogaethau, gyda chlystyrau o Larwydd, Pinwydden a chollddail cymysg. Mae gan y rhan fwyaf isdyfiant trwchus o redyn a mieri. Cafodd y coetir ei dorri diwethaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna plannwyd llarwydd Ewropeaidd yn ystod yr 1960au. Mae clychau'r gog hefyd i'w cael mewn rhai ardaloedd sy'n arwydd o goetir hynafol.


Nod y prosiect yw datblygu cynllun rheoli ymarferol ar gyfer y coetir a fydd yn darparu ffrwd incwm ychwanegol i'r busnes ffermio. Byddai’r cynllun yn ystyried sawl opsiwn rheoli:
 

  • Adfer y coetir brodorol 
  • Teneuo i ryddhau coed aeddfed sy'n cael eu boddi gan isdyfiant 
  • Teneuo i ffafrio gorchudd di-dor o gonwydd
  • Teneuo a choed cysgod i achub y blaen ar glefyd llarwydd posibl
  • Clirio’r ffynidwydd Douglas i godi incwm a newid i goetir brodorol 
  • Teneuo i wella ansawdd y pren mewn clystyrau gwern
  • Ffens i gadw stoc allan er mwyn cynyddu planhigion y ddaear a gwerth bioamrywiaeth 
  • Rheoli’r llarwydd Ewropeaidd hynafol fel safleoedd nythu adar ysglyfaethus 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • Ecosystemau cydnerth
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig 
  • Aer Glân; Gostyngiad mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr; Gwneud y mwyaf o storio carbon.
  • Dŵr Glân, Lleihau risg llifogydd a sychder