Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect – Rhagfyr 2024

Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?

  • Arolwg Coetir a Chynllunio
    • Mae adolygiad a chynllun rheoli coetir wedi cael eu cwblhau i arwain y strategaeth adfer.
    • Mae’r broses o ymgeisio am drwydded cwympo coed ar waith, i sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion rheoleiddio.
  • Mentrau Rheoli Coetiroedd
    • Mae gwaith synhwyro o bell yn cael ei wneud i asesu cyflwr presennol y coetir ac i gefnogi ymyriadau penodol.
    • Cynllun rheoli coetir yn amlinellu strategaethau i wella bioamrywiaeth, gwella iechyd coed, a hybu adferiad.
  • Archwilio Cyfleoedd Plannu
    • Trafodaethau parhaus ynglŷn â chyfleoedd plannu, gan gynnwys arferion amaeth goedwigaeth megis:
      ■    Coed unigol mewn porfeydd.
      ■    Gwella gwrychoedd presennol.
      ■    Sefydlu lleiniau cysgod i ddarparu cysgod ac i warchod rhag y gwynt.
    • Bydd unrhyw fentrau plannu yn cyd-fynd â gofynion y fferm, gan ganolbwyntio ar fuddion ymarferol megis mwy o gysgod i dda byw a chynyddu gwytnwch amgylcheddol.

Camau Nesaf

  • Cwblhau’r cais am drwydded cwympo coed a dechrau ar unrhyw waith sydd wedi’i gymeradwyo.
  • Parhau gyda gweithgareddau synhwyro o bell ac integreiddio’r canfyddiadau i’r cynllun rheoli.
  • Datblygu cynnig plannu amaeth goedwigaeth manwl sy’n cefnogi nodau ecolegol a gweithredol y fferm.