Integreiddio tail dofednod i ffermio glaswelltir
Mae Cymru wedi gweld cynnydd sydyn mewn ffermio dofednod dros y 15 mlynedd diwethaf, yn fwyaf nodedig mewn adar dodwy. Ym mis Awst 2022, amlygwyd bod dros 300 o siediau yn cynnwys dros 10 miliwn o adar ym Mhowys yn unig, sy’n fwy na’r cyfanswm o 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru. Ar ben hynny, mae’r unedau dofednod hyn bellach i’w gweld ledled ardaloedd ffermio glaswelltir, gyda llawer ohonyn nhw yn yr ucheldiroedd. Cyn hynny, roedden nhw’n tueddu i fod yn ardaloedd tir âr gororau Cymru.
Mae tail dofednod yn adnodd gwerthfawr sy’n cynnwys rhwng 2 a 4 gwaith yn fwy o lefelau nitrogen, ffosffad, potash a sylffwr na thail gwartheg (Tabl 1).
Felly, mae gan y defnydd o dail dofednod fel gwrtaith organig botensial mawr i ddisodli cynhyrchion gwrtaith a brynir, ond er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau, mae'n bwysig ei fod yn cael ei wasgaru pan fydd planhigion yn tyfu, ar gyfradd wasgaru briodol, a lle bo angen maetholion. Ond gall gorddefnydd o dail dofednod fel gwrtaith arwain at golli maetholion i’r amgylchedd trwy brosesau fel erydiad, dŵr ffo, trwytholchi ac anweddoli, a thrwy hynny gyfrannu at ddirywiad yn ansawdd yr aer, y pridd a’r dŵr.
Ceir cymhlethdodau pellach wrth integreiddio tail dofednod i leoliad glaswelltir lle defnyddir y tail gan gnwd sy’n tyfu fel porthiant a gaiff ei bori neu ei dorri ar gyfer bwyd anifeiliaid. Argymhellir y dylid caniatáu i dail dofednod ddadelfennu’n llawn cyn ei bori neu ei dorri er mwyn atal pathogenau rhag cael eu trosglwyddo. Awgrymir y dylai gymryd 4-6 wythnos. Nid yw'r amserlen hon bob amser ar gael ar blatfform pori cylchdro dwys neu system silwair amldoriad, ond gall fod yn fwy priodol lle mae cae'n cael ei drin ar gyfer cnwd âr.
Bydd y prosiect hwn yn archwilio sut i integreiddio tail dofednod o uned sy’n cynnwys 32,000 o adar dodwy ar ddwy fferm laswelltir yn y ffordd orau; mae gan un fuches laeth a defaid, a’r llall wartheg bîff a defaid.
Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â chanlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Aer glân
- Dŵr glân
- Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm
- Gwneud y mwyaf o storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon
Hybu silwair trwy ail-hadu meillion coch a thros-hadu mathau o laswellt sydd â pherfformiad uchel i wndwn presennol i wella cynhyrchiant ac ansawdd
Mae Cwmcowddu yn weithrediad glaswelltir 540 erw lewyrchus ac mae wedi ymrwymo i wneud y gorau o’i gynhyrchiant silwair er budd ei system dda byw amrywiol. Mae’r prosiect hwn yn archwilio dull deublyg: cyflwyno gwndwn meillion coch a gwerthuso effeithiolrwydd gwndwn silwair.
Mae gwndwn meillion coch yn cynnig y potensial i wella cynnyrch deunydd sych a chynnwys protein ar yr un pryd. Gall eu gallu i sefydlogi nitrogen roi hwb i ffrwythlondeb y pridd, a gall eu gwreiddiau dyfnach wella gwytnwch i sychder. Trwy ymgorffori meillion coch yn ein cymysgeddau gwndwn presennol, ein nod yw sicrhau silwair mwy cytbwys a maethlon, gan wella iechyd a pherfformiad y da byw yn ogystal ag effeithlonrwydd cyffredinol y fferm yn y pen draw, a hynny trwy gynyddu gwytnwch i sychder a gwella ffrwythlondeb y pridd oherwydd sefydlogiad nitrogen. Bydd gan y gwndwn meillion coch hefyd y potensial i besgi ŵyn wrth iddyn nhw bori’r adladd silwair heb yr angen am ddwysfwyd.
Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn asesu hyfywedd gwndwn silwair, gan archwilio eu potensial i gynyddu allbwn deunydd sych i'r eithaf trwy rywogaethau cynhyrchiol o laswellt. Mae gwndwn silwair yn aml yn cynnwys rhywogaethau glaswellt tra chynhyrchiol sy'n gallu cynhyrchu cnwd sylweddol. Mae’n bosibl y bydd y dull hwn yn ein galluogi i wneud y mwyaf o gyfaint y silwair a gynhyrchir, gan sicrhau cyflenwad helaeth o borthiant i’r stoc ar fferm Cwmcowddu.
Trwy gydweithio ag arbenigwyr amaethyddol a monitro gofalus, byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y ddau ddull o gyflawni ein nodau cynhyrchu silwair, gan baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy a chynhyrchiol i fferm Cwmcowddu.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon
- Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
- Tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig