Opsiynau ar gyfer hau india corn a chnydau gorchudd amgen
Mae’r teulu Bowyer yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o borthiant a dyfir gartref i fwydo eu diadell o famogiaid croesfrid a gwartheg newydd eu diddyfnu a gaiff eu prynu i’w pesgi ar y fferm. Mae eu system gylchdro âr hyblyg yn amrywio, gan gynnwys india corn, pys cnwd cyfan a haidd, haidd y gaeaf a haidd y gwanwyn a gwenith y gaeaf, gyda chnydau gorchudd yn cael eu hau o flaen cnydau'r gwanwyn. Mae gweddill y fferm yn cynnwys glaswelltir hirdymor, maglys, a meillion coch, a gaiff eu pori mewn cylchdro, a gwyndwn llysieuol. Caiff y rhan fwyaf o'r grawnfwydydd y gaeaf a’r gwanwyn a dyfir eu bwydo i'r mentrau bîff a defaid, gyda chontractwr melin a chymysgedd yn cael ei ddefnyddio bob 3-4 wythnos i felino'r grawn gyda ffa a dyfir yn lleol, gan ychwanegu at brotein yn ôl yr angen. Mae ychydig bach o ormodedd o rawn yn cael ei werthu'n lleol bron bob blwyddyn.
Gyda bron i draean o’r fferm yn dir âr bob blwyddyn, mae’r teulu Bowyer yn awyddus i archwilio ffyrdd o ddiogelu a gwella iechyd y pridd. Mae integreiddio cnydau gorchudd yn dilyn cynaeafau grawn yn cynnig dull strategol ar gyfer gwella iechyd y pridd a chyflawni cynaliadwyedd amaethyddol hirdymor. Felly byddwn yn ceisio treialu gwahanol gymysgeddau hadau ar gyfer india corn sy'n cael ei dan-hau a hefyd ar gyfer cnydau gorchudd yn dilyn grawnfwydydd. Mae gan dan-hau a chnydau gorchudd fanteision o ran:
- lleihau erydiad pridd
- gwella strwythur y pridd
- cadw nitrogen yn y pridd
- helpu i reoli chwyn, plâu a chlefydau
- darparu porfa a phorthiant amgen i dda byw
- gwella bioamrywiaeth.
Bydd y prosiect yn monitro sefydliad pob cymysgedd, eu heffaith ar strwythur y pridd trwy asesiadau gweledol (VESS), cyfraddau ymdreiddiad dŵr a’r gweddillion nitrogen yn y pridd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- dŵr glân
- gwneud y mwyaf o storio carbon
- lleihau risg llifogydd a sychder
- ecosystemau cydnerth
- defnyddio adnoddau’n effeithlon