Aron Dafydd

Silian, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Cafodd Aron Dafydd ei fagu ar fferm laeth, ac aeth ymlaen i astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei gyfnod yno, treuliodd flwyddyn ar fferm laeth yn Swydd Amwythig cyn dychwelyd adref i fferm ei deulu i helpu i reoli’r fuches laeth o wartheg holstein.

Ers hynny, mae wedi gwneud rhai newidiadau i’r fferm er mwyn gwella effeithlonrwydd. Ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd newid y system o loia drwy gydol y flwyddyn i loia yn yr hydref a'r gwanwyn.

Er mwyn creu ffrwd incwm ychwanegol, mae Aron a’i chwaer yn rhedeg busnes yn gwerthu llaeth trwy beiriant gwerthu lleol ac maent hefyd yn cyflenwi’n uniongyrchol i fusnesau lleol fel Angelato, Aberaeron a Contis, Llanbedr Pont Steffan.

Fel aelod gweithgar o CFfI Bro Dderi, mae Aron wedi ymgymryd â sawl rôl ac mae wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau megis siarad cyhoeddus.

Wrth edrych ymlaen, hoffai Aron ganolbwyntio mwy ar werthu llaeth a chynnyrch llaeth. 

Mae’n credu y bydd yr Academi Amaeth yn cynnig dysg werthfawr a syniadau ffres i ddatblygu ei sgiliau, y fferm, a’r busnes llaeth ar gyfer y dyfodol.