Math Emyr William

Lanefydd, Conwy

Mae Emyr yn dod o Lanefydd, Conwy, ac ef yw’r ieuengaf o bedwar brawd. Mae'n cydbwyso ei astudiaethau ar gyfer ei gymwysterau TGAU yn Ysgol Glan Clwyd â helpu ar fferm bîff a defaid y teulu a gweithio ar fferm laeth leol ar y penwythnosau.

Fel aelod gweithgar o CFfI Llanefydd, mae Emyr yn ffynnu ar gystadleuaeth gyfeillgar ac yn mwynhau cymryd rhan yn holl weithgareddau’r clwb. Mae Emyr yn bêl-droediwr brwd, ac ef yw capten clwb pêl-droed dan 16 Henllan eleni.

Yn y dyfodol agos, mae Emyr yn gobeithio astudio cymwysterau Lefel A mewn Cymraeg, Daearyddiaeth a Mathemateg cyn symud ymlaen i astudio gradd mathemateg yn y brifysgol. Mae hefyd yn agored i’r posibilrwydd o brentisiaeth ac mae’n gobeithio y bydd yr Academi Amaeth yn agor drysau ac yn ei helpu i benderfynu ar lwybr addas. Sbardunodd ffair yrfaoedd ddiweddar ddiddordeb Emyr yn y sector cyllid, yn enwedig cyllid amaethyddol yng Nghymru. Mae’r sgwrs hon gyda chynrychiolwyr banc, ynghyd â phrofiad gwaith mewn cwmni cyfrifo lleol, wedi cadarnhau ei awydd am yrfa sy'n cyfuno cyllid ac amaethyddiaeth.

Mae’r Academi Amaeth yn gyfle cyffrous i Emyr gysylltu ag unigolion o’r un anian o bob rhan o Gymru sy’n rhannu ei angerdd dros y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.