Siôn Einion Pearson

Abercegir, Machynlleth

Mae Siôn Einion Pearson, sy’n dod o Abercegir ger Machynlleth, yn astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Y Drenewydd ar hyn o bryd. Mae Siôn wedi bod yn ymwneud â phob agwedd ar waith fferm ers iddo fod yn ifanc iawn, ac mae wedi datblygu angerdd dros ffermio defaid, gan fwynhau’r tymhorau ŵyna a chneifio yn arbennig. Mae hefyd yn mwynhau hel defaid ar y mynydd, gan weithio ei gi defaid ei hun, Meg.

Fel aelod gweithgar o CFfI Bro Ddyfi, mae Siôn yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol megis barnu stoc a siarad cyhoeddus, yn ogystal â pherfformio ar lwyfan yr Eisteddfod a chystadlaethau drama.

Mae Siôn wedi gosod ei fryd ar dymor cneifio yn Seland Newydd i feithrin ei sgiliau cneifio. Ei nod yn y pen draw yw gallu rhedeg ei fferm bîff a defaid ei hun ryw ddydd.

Ymgeisiodd Siôn am le ar yr Academi Amaeth gan obeithio y bydd cymdeithasu ag unigolion o’r un anian a gwrando ar wahanol ffermwyr ac arbenigwyr y diwydiant yn rhoi’r cyfle iddo ehangu ei orwelion a datblygu ei hun. Mae gan Siôn agwedd gadarnhaol iawn tuag at amaethyddiaeth yng Nghymru a’i ddyfodol yn y sector ac mae’n credu y bydd yr Academi Amaeth yn ei helpu ar ei ffordd i ddyfodol llwyddiannus.