Harri Tomos Tudor

Lanerfyl, Sir Drefaldwyn

Mae Harri Tomos Tudor, o Lanerfyl, Sir Drefaldwyn yng nghanol ei ‘flwyddyn mewn diwydiant’ o Goleg Reaseheath ar hyn o bryd. Mae’n byw ac yn gweithio ar fferm laeth dros y ffin yn Bishops Castle, cyn y bydd yn dychwelyd i Reaseheath ym mis Medi i gwblhau ei flwyddyn olaf o’r cynllun diploma estynedig mewn Amaethyddiaeth (lefel 3). Mae Harri wedi ymddiddori erioed yn y fferm deuluol gyfagos, a dywedodd mai gweld y newid o fferm gyda gwartheg sugno a defaid i fferm laeth yn 2020 oedd yr hyn a’i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth.

Mae Harri'n mwynhau cneifio ar gontract ac mae'n awyddus i adeiladu ar ei brofiad cneifio yn y dyfodol. Mae hefyd yn chwarae pêl-droed a rygbi yn rheolaidd ar ôl mwynhau cyfnod llwyddiannus o 4 blynedd gyda thîm Rygbi RGC.

Ac yntau wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ffermio cyfran yn ddiweddar, mae Harri yn awyddus i archwilio mwy a darganfod cyfleoedd ffermio cyfran. Mae hefyd yn awyddus i ehangu ei orwelion a dysgu mwy am y diwydiant amaethyddol y tu allan i Gymru, ac mae’n edrych ymlaen at deithio i Seland Newydd.

Un peth sy’n bendant iddo yw ei freuddwyd i fod yn berchen ar fferm ryw ddydd. Mae’n gwybod na fydd hyn yn hawdd, gan nad yw ei rieni’n berchen ar fferm, ond mae’n sicr yn benderfynol.

Mae Harri’n gobeithio y bydd ei amser yn yr Academi Amaeth yn helpu i lunio cam nesaf ei yrfa gan nad yw wedi penderfynu a ddylai barhau â’r llwybr addysg ffurfiol ac astudio Amaethyddiaeth yn y Brifysgol ynteu chwilio am lwybr mwy ymarferol i amaethyddiaeth.