Treathro Diwedariad Prosiect - Gorffennaf 2024

Pridd Gwydn ar gyfer Ffermydd Gwydn

Mae priddoedd o bedwar arfer rheoli gwahanol yn cael eu hasesu er mwyn pennu iechyd y pridd yr effaith y mae arferion ffermio adfywiol yn ei chael ar iechyd y pridd (gan gynnwys stoc garbon y pridd a microbioleg y pridd (nodweddion y cae a amlinellir yn Nhabl 1).

Tabl 1: Caeau a ddewiswyd ar gyfer samplo pridd

 

ADRODDIAD AR DDADANSODDIAD Y PRIDD

Tabl 2: Canlyniadau dadansoddiad y pridd ar gyfer pH, Ffosfforws (P), Potasiwm (K) a Magnesiwm (Mg) ym mhob cae ac wrth ymyl y gwrych. ND = dim data, lle nad oedd yn bosibl i ni gael sampl cynrychioliadol o’r pridd.

 

DEUNYDD ORGANIG PRIDD
Troswyd canlyniadau Deunydd Organig i Ddeunydd Carbon Organig y Pridd (sef prif gyfansoddyn Deunydd Organig y Pridd). Yna, defnyddiwyd y ffigyrau hyn, ynghyd â data dwysedd swmp (pwysau pridd sych o fewn cyfaint diffiniedig), er mwyn amcangyfrif stoc garbon y priddoedd a samplwyd, wedi’i fynegi mewn tunelli fesul hectar.

Ffigwr 1: Deunydd Organig Cyfartalog y Pridd (%) ar gyfer bob dyfnder samplu o fewn bob math o gae

STOC GARBON PRIDD

Tabl 3: Stoc Garbon Gyfartalog y pridd (t/ha) ar gyfer bob dyfnder samplu ym mhob cae ac wrth ymyl y gwyrch. Mae’r rhifau’n cynrychioli’r mathau o gaeau ac mae H1-H4 yn cynrychioli’r samplau pridd a gymerwyd wrth y gwrych yn y caeau hynny. ND = dim data, lle nad oedd yn bosibl i ni gael sampl cynrychioliadol o’r pridd.

 

MICROBIOLEG Y PRIDD

Gallwn ddefnyddio dangosyddion gweledol megis strwythur y pridd a nifer y pryfed genwair i fesur pa mor dda y mae pridd yn debygol o berfformio, ond gyda’r prosiect hwn, rydym wedi mynd â phethau gam ymhellach ac wedi edrych ar ficrobioleg y pridd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio microsgop i chwilio am fywyd ar lefel ficrosgopig gan gynnwys bacteria, ffyngau, protosoa a nematodau.

Rydym wedi canfod bod y lefelau o facteria yn ddominyddol iawn ac yn ddelfrydol, hoffem weld mwy o ffyngau. Mae hyn yn eithaf nodweddiadol o lawer o briddoedd amaethyddol a gellir ei wella trwy arferion adfywiol megis defnyddio gwndwn â gwreiddiau dwfn gan ddefnyddio dulliau trin y tir cyn lleied â phosibl sy'n caniatáu i'r ffyngau amlhau. Bydd defnyddio llai o wrtaith artiffisial a chynyddu carbon yn y pridd hefyd yn helpu. Mae'n bwysig cofio bod gwella iechyd y pridd yn cymryd amser a gall gymryd sawl blwyddyn cyn y gwelir newidiadau sylweddol.

Dyma rai o'r microbau'r pridd a welir ar fferm Treathro:

 

Mae'r holl ficroffauna a ddangosir yn y lluniau hyn yn rhan o ecosystem y pridd a gyda'i gilydd yn adeiladu pridd iach, gweithredol.

MWYDOD NEU BRYFED GENWAIR

Cyfeirir at bryfed genwair yn aml fel peirianwyr ecosystem. Maent yn prosesu deunydd organig ac yn creu tyllau sy'n cyfrannu at symudiad dŵr ac aer sy'n helpu i ddatblygu strwythur y pridd. Trwy gyfrif a dosbarthu'r pryfed genwair, yn ôl yr haen y maent yn byw ynddo ym mhroffil y pridd, mae'n creu darlun o sut mae'r pridd yn gweithredu. Ym mis Ebrill 2024, fe wnaethom dyllu tyllau pridd 20 x 20 x 20cm ar fferm Treathro a chyfrif y pryfed genwair gan nodi’r cyfanswm (pryfed genwair ifanc ac oedolion) a faint oedd yn oedolion ac felly’n gallu atgenhedlu. Fe wnaethom gategoreiddio'r pryfed genwair yn ôl tair haen wahanol ym mhroffil y pridd; Epigeig (neu breswylwyr torllwyth), Endogeig (neu breswylwyr uwchbridd) ac Anecig (y rhai sy’n tyllu’n ddwfn). 

Ffigwr 3. Poblogaeth pryfed genwair ar fferm Treathro