03 Gorffennaf 2024

Gyda mentora gan ffermwr profiadol, mae cynhyrchydd cig oen o Bowys yn dweud nad yw perfformiad ei fferm a’i ddiadell erioed wedi bod cystal.

Mae James Ruggeri yn cadw diadell gymysg o 200 o famogiaid ar 50 erw o ucheldir yng Ngwaelod-y-Rhos, ger Llanfair Caereinion.

Roedd ei rieni, y ddau yn athrawon, wedi prynu’r daliad yn 1989 ac wedi magu James a’i frawd a’i chwaer yno.

Er bod James yn gweithio fel Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant gyda Hybu Cig Cymru (HCC), roedd wedi bod eisiau ffermio erioed a chafodd y cyfle i ymgymryd â Gwaelod-y-Rhos lle mae bellach yn byw gyda’i ddyweddi, Gwawr, ac yn rhedeg y daliad ochr yn ochr â’i swydd oddi ar y fferm.

Trwy ei rôl gyda HCC, casglodd syniadau o ffermydd a systemau eraill ond nid oedd ganddo’r hunanhyder i gymryd y cam nesaf a rhoi rhai o’r rhain ar waith.

 “Roeddwn i’n euog o ddod yn ôl o ddigwyddiadau gyda syniadau newydd ond heb roi’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu ar waith,’’ mae’n cofio.

I roi’r hwb hwnnw iddo, gwnaeth gais i fod yn rhan o Raglen Fentora Cyswllt Ffermio a sicrhaodd fentor, sef ffermwr bîff a defaid, John Yeomans.

Roedd John yn ffrind ac yn gymydog agos iddo, yn ffermio yn Llwyn Y Brain, Adfa, ond roedd mentora yn rhoi strwythur mwy ffurfiol i James gael ei gyngor a'i arweiniad. 

“Fe roddodd yr ysbrydoliaeth yr oeddwn ei angen i fwrw ymlaen a rhoi’r pethau hyn ar waith; mae John wedi bod yn dda iawn yn gwneud hynny.’’

Ers sefydlu’r berthynas fentora honno ddwy flynedd yn ôl, mae James wedi newid o stocio sefydlog i bori cylchdro, wedi arbrofi gyda thyfu gwahanol gnydau a glaswellt ac wedi addasu ei ddull o reoli chwyn.

O ganlyniad, mae'n dweud bod ei fusnes mewn sefyllfa gryfach o lawer.
“Rydym ni bellach yn y lle gorau rydym ni erioed wedi bod ynddo o ran pori, ac mae’r ddiadell yn fwy cynhyrchiol ac iachach.”

“Roedden ni wedi rhoi cynnig ar ychydig o bori cylchdro ond fe wnaeth John ein hysgogi i fwrw ymlaen a’i gyflwyno ymhellach.’’

Gosodwyd sawl mil o fetrau o ffensys trydan i greu'r system bori honno.

Mae’r fferm bellach yn tyfu llawer mwy o laswellt ac yn cadw’r ansawdd gorau o flaen y defaid.

Mae isrannu'n badogau yn caniatáu cyflenwad cyson o aildyfiant ffres, meddai James.

“Mae’n golygu bod â’r hyder i wybod y bydd digon o laswellt o’n blaenau ond na fydd yn heneiddio cyn i ni fod ei angen ar gyfer pori.’’

Mewn cyfnodau o dwf uchel, gall addasu'r cylchdro a thynnu padogau allan i'w pori.

Eleni roedd yr holl silwair sydd ei angen ar gyfer porthiant y gaeaf wedi'i dorri erbyn yr ail wythnos ym mis Mehefin, sef y tro cyntaf i hynny ddigwydd.

“Rydym ni ymhell ar y blaen i ble roedden ni,’’ meddai James.

Y llynedd penderfynodd dyfu maglys fel arbrawf a chan fod natur wlyb ei fferm yn golygu mai siawns ydoedd, cynghorodd John ef i gynnwys Rhonwellt fel gwair.

Profodd hyn yn gyngor amhrisiadwy wrth i’r maglys fethu a’r Rhonwellt ffynnu, cymaint nes iddo gael ei dorri ar gyfer silwair ym mis Mai, sef y cynharaf y mae James erioed wedi torri gwair i’w gadw; roedd yr adladd yn darparu porfa lân i'w famogiaid a'i ŵyn.

“Roedd yn gwneud llawer o synnwyr i gynnwys Rhonwellt ac oherwydd bod John yn cadw llygad arna’ i ac yn rhoi cyngor, roedd gen i’r hyder i’w wneud,’’ meddai.

Mae gwelliannau hefyd wedi'u gwneud i reoli chwyn.

Dros y blynyddoedd, mae llawer o gaeau wedi cael eu haredig a'u hailhadu, wrth i James dreialu tyfu gwahanol gnydau, ond arweiniodd tarfu ar y pridd at faich chwyn uchel.

“Os ydych chi’n tyfu unrhyw beth heblaw glaswellt, rydych chi’n gyfyngedig o ran rheolaethau cemegol ac nid yw chwistrellu cystal â hynny i’r amgylchedd nac i’r pridd yn y tymor hwy,’’ meddai James.

“Rydym nawr yn mynd i’r afael â’r mater gyda gwell rheolaeth o laswellt, gan roi cyfle i laswellt drechu’r chwyn trwy bori wedi’i gynllunio.
“Rydym wedi gweld gwahaniaeth mawr gyda glaswellt yn trechu’r chwyn.’’

Mae James hefyd yn bwriadu symud i ffwrdd o aredig fel adnodd amaethu ac yn hytrach bydd yn rhoi cynnig ar dros-hadu.

Unwaith eto, mentora John sydd wedi rhoi’r hyder iddo roi cynnig ar hyn.

“Nid yw John yn credu’n fawr mewn aredig a gallaf weld y synnwyr mewn dros-hadu oherwydd nid yw’n tarfu ar strwythur a chemeg y pridd, ac yn golygu nad ydym yn tarfu ar hadau chwyn.’’

Heb Raglen Fentora Cyswllt Ffermio, dywed James ei fod yn annhebygol o fod wedi gwneud y penderfyniadau dewr y mae wedi’u gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n ddiolchgar ei fod wedi cael y cyfle hwnnw ac yn gweld dyfodol disglair i’r fferm.

“Rydym nawr mewn sefyllfa i edrych ar sut y gallwn ymestyn popeth ymhellach, efallai gadw mwy o ddefaid neu fath gwahanol o famog, neu ddod â gwartheg yn ôl fel adnodd rheoli ychwanegol yn y system bori cylchdro.

“Mae gennym ni fusnes rydym ni’n gwybod sy’n gweithio, rydym ni’n gwybod bod gennym ni ddigon o laswellt, rydym ni nawr eisiau canolbwyntio ar sut gallwn ni gael yr elw mwyaf ohono.’’

Am ragor o wybodaeth am Raglen Fenotra Cyswllt Ffermio, ewch i  https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/mentora 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer
26 Mehefin 2024 Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid
Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio yn Helpu Ffermwyr i Wella Cynaliadwyedd a Pherfformiad Ŵyn
06 Mehefin 2024 Mae prosiect gan David & Will Lewis, Treforgan