Glascoed Project Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Crynodeb o adolygiad perfformiad Glascoed 2019 i 2024
Tir
Symudodd John Nutting, hen dad-cu Alwyn, o Langynyw i fferm Glascoed yn 1929. Ers hynny mae wedi cael ei ffermio gan ei dad-cu, Trevor a’i dad, John Nutting. Mae’n debyg mai mab Alwyn, Dylan, fydd yn cymryd yr awenau yn y dyfodol. Mae'r tir yn ymestyn i 200 erw o laswelltir y maent yn berchen arno, 50 erw o laswelltir wedi'i rentu a hawliau ar gyfer 150 o famogiaid ar dir comin. Mae'r holl dir yn laswelltir ond mae sofl maip yn cael eu plannu cyn ailhadu. Mae yna ystod dda o adeiladau fferm ar gyfer cadw gwartheg a defaid.
Ffigur 1. Map o dir Fferm Glascoed
Mae mamogiaid Miwl Cymreig a mamogiaid Cymreig pur wedi'u cadw yn y gorffennol ond mae'r ddiadell groesfrid bellach wedi trosglwyddo trwy Aberfield i Highlander. Mae 560 o famogiaid croesfrid a 130 o famogiaid Cymreig ar y fferm ar hyn o bryd yn ogystal â 150 o famogiaid hesbwrn.
Mae’r fuches sugno wedi lleihau o 40 buwch i 15 ar hyn o bryd. Mae'r fuches ar hyn o bryd yn symud tuag at y brid Stabilizer ond mae dyfodol y fuches yn ansicr.
Ffigur 2. Cyfanswm stocio’r Unedau Da Byw yn Fferm Glascoed
Newidiadau dros y pum mlynedd diwethaf
Mae stocio wedi'i gynnal rhwng 120 a 130 LU ar y 250 erw neu 1.18 i 1.28LU/ha. Cyflawnwyd hyn er gwaethaf gostyngiad o 36% yn y defnydd o N a gostyngiad o 76% yn y defnydd o ddwysfwyd porthiant ar gyfer y defaid.
Rheoli maetholion
Cwblhawyd cynllun rheoli maetholion gan Alwyn drwy Cyswllt Ffermio yn 2020/21 ac mae’n parhau i gymryd samplau pridd blynyddol i asesu’r angen am wrtaith a chalch. Dangosodd chwe chae a samplwyd ym mis Ebrill '24 pH cyfartalog o 6.2 gydag un cae angen calch, gyda'r rhan fwyaf o'r caeau ar fynegai o 2+ ar gyfer ffosffad, 2- ar gyfer potash a 3 ar gyfer magnesiwm.
Defnydd gwrtaith
Mae ffynonellau amrywiol o wrtaith wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol gan gynnwys cyfansoddion, wrea, tail dofednod a chalch. Tybiwyd bod y tail dofednod yn 50% o ddeunydd sych ac yn cynnwys 5kgN/t, 8.7kgP2O/t, 16.5kgK 2 O/t, 6.9kgSO 2 /t a 5.1kgMgO/t yn seiliedig ar werthoedd safonol RB209. Mae’r defnydd o N wedi gostwng 36%, P wedi gostwng 83% a K wedi gostwng 72%. Mae hyn yn bennaf oherwydd y defnydd o feillion coch a gwyn a gwndwn llysieuol.
Defnydd o faetholion
Meillion coch
Bedair blynedd yn ôl, heuwyd 9 erw o feillion coch/PRG (fel arfer mae’r tir yn cael ei aredig a’i lyfnu, mae maip sofl yn cael eu plannu, mae’r glaswellt yn cael ei godi’r a’r hadau’n cael eu crafu i mewn ar gyfer gwndwn newydd). Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, roedd y cnydau ar y cae wedi perfformio’n dda gyda 12 i 14t o ddeunydd sych/hectar yn cael ei gymryd mewn tri thoriad. Roedd yr adladd yn cario llawer o ŵyn ond ni thyfodd yr ŵyn yn arbennig o dda oherwydd canfuwyd diffyg ïodin.
Gwndwn llysieuol
Yn y flwyddyn gyntaf, gweithiodd y gwndwn llysieuol newydd yn dda ac roedd yr ŵyn yn pesgi’n gyflym ond erbyn yr ail flwyddyn, roedd bron y cyfan o'r ysgellog wedi mynd. Mae meillion gwyn wedi gwneud yn dda yn y gymysgedd ond mae Alwyn wedi gorfod defnyddio Weed Wiper er mwyn cael gwared ar ysgall.
Bwydo mamogiaid
Mae’r rhan fwyaf o famogiaid yn cael eu cadw dan do ar gyfer wyna ond dros y 5 mlynedd diwethaf mae’r defnydd o ddwysfwyd wedi’i leihau’n raddol wrth i silwair o ansawdd gwell gael ei gynhyrchu. Mae defnydd o ddwysfwyd wedi gostwng o oddeutu 20 tunnell yn 2019 i oddeutu 6 tunnell yn 2024. Dros y blynyddoedd hynny, mae Alwyn wedi symud i ffwrdd o wneud silwair clamp, gyda'r risg llygredd cysylltiedig, i wneud silwair byrnau mawr o ansawdd llawer gwell (10 MJ/kg o ddeunydd sych ar gyfer clamp a 11.5 MJ/kg o ddeunydd sych ar gyfer byrnau mawr).
Ffigur 3. Defnydd o ddwysfwydydd yn fferm Glascoed
Rheoli llyngyr
Mae Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) yn cael ei wneud bob 2 i 3 wythnos yn ddibynnol ar yr adeg o'r flwyddyn a thargedir ŵyn budr ar gyfer triniaeth. Gwneir profion ar y fferm gan ddefnyddio'r weithdrefn McMaster wedi'i haddasu. Cynhaliwyd profion ymwrthedd trwy Cyswllt Ffermio a wnaeth ganfod ymwrthedd i ddrensh gwyn (benzimidazoles).
Mae gwndwn llysieuol/ailhadu wedi helpu i leihau'r defnydd o ddosys i reoli llyngyr.
Mesur ôl troed carbon
Mae'r holl gaeau wedi'u samplu a'u dadansoddi ar gyfer carbon pridd fel llinell sylfaen er mwyn mesur effaith newidiadau mewn rheolaeth.
Diffygion elfennau hybrin
Yn 2021, cynhaliwyd archwiliad mwynau trwy Cyswllt Ffermio gan ddatgelu rhai materion allweddol:
- Cymeriant calsiwm uchel a allai ddylanwadu ar gymeriant manganîs, sinc copr, ïodin cobalt a seleniwm gan stoc.
- Cymeriant sylffwr uchel a all effeithio ar gymeriant copr a seleniwm
- Haearn uchel a fydd yn effeithio ar argaeledd copr
- Cymeriant ïodin isel ar y gofynion brig ar gyfer mamogiaid ac ŵyn
- Seleniwm isel ar alw brig mamogiaid ac ŵyn
Y cyngor oedd lleihau’r defnydd o sylffwr (yn bennaf o dail dofednod), monitro statws copr trwy samplu gwaed ac afu a darparu atchwanegiadau seleniwm ac ïodin i famogiaid ac ŵyn.
Mae defaid yn cael eu bolwsio ag Agrimin 24/7 (4.2mg ïodin, 0.8mg cobalt, 0.4mg o seleniwm bob dydd am 180 diwrnod) ddwywaith y flwyddyn (£2.40/mamog) ac mae ŵyn hefyd yn cael eu trin cyn diddyfnu.
Grŵp trafod Cyswllt Ffermio
Roedd Alwyn yn aelod gweithgar o grŵp trafod Defaid Gogledd Sir Drefaldwyn rhwng 2020 a 2022. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd a mewnbynnu data i’r adnodd Mesur i Reoli.
Cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol
- Awgrymwyd y dylid sefydlu treial i brofi tri atchwanegiad hybrin ar ŵyn y tymor hwn.
- Mae Alwyn yn bwriadu asesu proffidioldeb y fuches sugno yn feirniadol.