Dylasau uchaf Diweddariad prosiect – Mai 2024

Parhawyd i gasglu data, gan gynnwys enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) yr oen, drwy gydol y cyfnod ŵyna ac ar ôl wyna, gan ymestyn hyd at y pwynt lladd er mwyn asesu perfformiad cyffredinol y ddiadell ac effeithiolrwydd y cynllun porthi diwygiedig.

Cynhaliwyd diwrnod agored i rannu gwybodaeth am arfer gorau o ran gwneud silwair, profi, a dognau porthiant gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Gallwch wrando ar y podlediad Rhifyn 101 - Cael y gorau o silwair adeg wyna - mae'r cynllunio ar arolygu yn dechrau nawr - Rhan 1 o’r digwyddiad i glywed mwy am y pwyntiau allweddol a drafodwyd ar y diwrnod.