Llygredd gwasgaredig yw llygredd sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd fel cwrs dŵr mewn ffordd na ellir ei phriodoli'n glir i un gweithgaredd. Gallai hyn fod trwy ffynonellau lluosog neu un ffynhonnell ond mae’n mynd i mewn i gwrs dŵr mewn sawl man. Efallai na fydd pob ffynhonnell ar ei phen ei hun yn achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, ond gyda'i gilydd gallant achosi niwed. Yn hytrach na bod llygryddion yn cael eu cyfeirio er enghraifft trwy bibell ollwng, maent yn gwneud eu ffordd i afon er enghraifft, trwy wahanol lwybrau megis trwy ddŵr daear, o'r atmosffer, a thrwy ddŵr ffo o reolaeth tir gwael. Mae enghreifftiau o'r llygryddion hyn yn cynnwys maetholion, plaladdwyr, bacteria ysgarthol, cemegau, pridd a gwaddodion mân, sydd i gyd yn cael effaith gronnol ar yr amgylchedd.
Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]