Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect – Mehefin 2024

Tynnu Bwcedi Porthiant Mwynol (30/05/24): Tynnwyd bwcedi porthiant mwynol i werthuso eu heffaith ar berfformiad y ddiadell a lefelau mwynau, gan ganiatáu ar gyfer asesiad wedi'i seilio ar ddata o'u hangen.

Profi Gwaed Ŵyn (21/06/24): Cynhaliwyd profion gwaed ar ŵyn yr amheuir eu bod wedi marw o glostridiol. Mae’r canlyniadau ar y ffordd. Nod yr ymchwiliad hwn yw nodi risgiau posibl o glefydau a llywio mesurau ataliol. Mae post mortem o ŵyn sy’n tyfu wedi datgelu mai afiechydon clostridiol yw prif achos marwolaeth yn y grŵp oedran hwn. 

Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC): mae hyn wedi datgelu symiau amrywiol o nematodau gastroberfeddol gyda samplau rheolaidd yn cael eu cymryd i bennu'r amser gorau am driniaeth ac i fonitro llwyddiant unrhyw foddion gwrthlyngyrol a roddir. 

Gweithgareddau ar y gweill:

BCS, Profion Gwaed, a Samplu FEC (24/07/24): Bydd mamogiaid ac ŵyn benyw yn cael asesiad Sgôr Cyflwr y Corff a phrofion gwaed am elfennau hybrin. Yn ogystal, bydd profion cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn cael eu cynnal ar ŵyn i fonitro’r baich parasitiaid ac i lywio strategaethau lladd llyngyr wedi’u targedu. Bydd y ganran magu hefyd yn cael ei chyfrifo a'i hasesu.