Awel y Grug Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Mae gwerthusiad o’r fuches sugno wedi’i gwblhau yn Awel y Grug a nodwyd yr argymhellion canlynol:
- Mae'r adolygiad o’r fenter wedi dangos bod perfformiad technegol y fuches yn dda gyda dangosyddion perfformiad allweddol yn dangos bod metrigau ffrwythlondeb yn agos at dargedau'r diwydiant. Mae lle i wella o ran cyfraddau twf lloi gan y bydd hyn yn cael effaith fawr ar allbwn y buchod os byddant yn gwerthu gwartheg yn 13 mis oed.
- Yn ariannol, mae'r fuches yn perfformio'n dda. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw ffigurau ar gyfer blynyddoedd unigol yn cael eu cymryd allan o’u cyd-destun. Ar gyfer y flwyddyn 2023/24, roedd mwy o wartheg ifanc wedi’u gwerthu o gymharu â nifer y buchod. Rhoddodd hyn hwb i ffigyrau allbwn buchod unigol.
- Os cedwir y fuches, yna mae’n rhaid sefydlu polisi amnewid clir.
- Mae dadansoddiad elw gros o'r mentrau stôr a phesgi yn dangos bod pesgi gwartheg bîff yn amhroffidiol o fewn y system bresennol yn Awel y Grug, ac felly dylid rhoi'r gorau i’r fenter hon o blaid gwerthu gwartheg stôr yn iau.
- Mae dadansoddiad hefyd yn dangos bod y fenter bîff fesul uned da byw yn perfformio’n well na’r fenter ddefaid ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae costau sefydlog yn uwch ar gyfer y fenter bîff ac mae hyn yn arwain at elw net negyddol tra bod y fenter ddefaid yn darparu elw net cadarnhaol.
Ymchwiliwyd i'r opsiynau a'u trafod yn yr adroddiad terfynol
Opsiwn 1 – Y system ffermio bresennol gyda pherfformiad gwell o ran defaid a gwartheg
Opsiwn 2 – Gwaredu’r fuches sugno a chynyddu nifer y mamogiaid i 1,000
Opsiwn 3 – Gwaredu’r fuches sugno a chynyddu nifer y mamogiaid i 1,000, ond gyda pherfformiad y ddiadell yn well
Opsiwn 4 – Sefydlu menter magu heffrod ar gontract sy’n rhedeg 50 o heffrod R1 a 50 o rai R2 ochr yn ochr â 700 o famogiaid
- Mae gwaredu’r fuches sugno a chynyddu nifer y mamogiaid yn dangos cynnydd o ran elw ym mhroffidioldeb cyffredinol y busnes (bydd data ariannol ar gael yn yr adroddiad terfynol) yn bennaf oherwydd gostyngiad mewn costau yn ymwneud â thrwsio a moduron. Fodd bynnag, byddai elw gros y fferm ychydig yn is nag y mae o dan y system bresennol fel y gwelir yn opsiwn 2.
- Yn sicr, mae mwy o le i wella perfformiad ariannol y fenter ddefaid na’r fenter bîff ac os gellir cyflawni hyn ynghyd â mân welliannau i berfformiad y buchod sugno, yna bydd yn cael effaith sylweddol ar elw cyffredinol y fferm.
- Soniodd Chris fod gwaredu’r fuches sugno a chynyddu niferoedd y mamogiaid yn opsiwn deniadol oherwydd y galw uchel am lafur sy’n gysylltiedig â’r buchod ac mae’r dadansoddiad o opsiynau’n dangos mai’r opsiwn mwyaf proffidiol fyddai opsiwn 3. Fodd bynnag, mae’r opsiwn hwn yn seiliedig ar welliant amlwg mewn perfformiad technegol ac ariannol y ddiadell. Byddai digon o le yn y sied adeg wyna ar gyfer 300 o famogiaid ychwanegol pe na bai buchod ar y fferm.
Nodwyd hefyd fod yna fanteision ychwanegol i gael gwartheg ar fferm lle na ellir gosod gwerth ariannol ac y dylid ei ystyried, gan gynnwys eu rôl mewn cylchredeg maetholion ac effaith pori cymysg ar fioamrywiaeth, cyfansoddiad y glaswellt a baich llyngyr.