14 Ebrill 2021

 

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Y prif negeseuon:

  • Gall systemau pori cymysg gynyddu potensial cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil
  • Mae pori rhywogaethau niferus o lysysyddion, naill ai ar yr un pryd neu un yn dilyn y llall, yn gallu gwneud defnydd mwy effeithlon o’r tir pori a gostwng y baich parasitiaid
  • Gall hyn gynyddu allbynau’r system glaswelltir-anifeiliaid cnoi cil heb orfod defnyddio mwy o wrtaith neu ddefnyddio dulliau dwys o reoli’r tir

 

Mae gwella’r rheolaeth ar laswelltir yn un o amcanion allweddol amaethyddiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau’r potensial cynhyrchu gorau i ateb y galw cynyddol, a galw’r dyfodol, am fwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r strategaethau gwella’n canolbwyntio ar well rheolaeth, fel cyflwyno technolegau i fonitro twf neu strategaethau gwrtaith, ac eto gallai rhai dulliau technoleg isel penodol, hyd yn oed rhai traddodiadol o bosib, gynnig budd o ran gwella canlyniadau cynhyrchu hefyd.

Systemau pori cymysg yw systemau lle mae dau fath neu fwy o anifeiliaid llysysol yn pori’r un tir, naill ai ar yr un pryd neu gydag un math yn dilyn y llall. Mae’r dulliau pori cymysg yn cynnig opsiwn gwahanol i ddulliau eraill o reoli’r tir pori a gallant fod yn effeithiol am wella perfformiad yr anifeiliaid cnoi cil.

Mae’r effaith gadarnhaol hon yn digwydd oherwydd y rhyngweithio rhwng yr anifeiliaid sy’n pori. Mae gan wahanol rywogaethau o lysysyddion wahanol strategaethau pori. Gall hyn gynnwys ymddygiad fforio, lle mae’r anifail yn ffafrio a dewis rhywogaethau planhigion penodol neu’n eu hosgoi, a/neu weithred fecanyddol, sef effaith wahanol gan faint y brathiad neu ddylanwad y sathru gan lysysyddion o feintiau gwahanol. Mae llysysyddion mawr fel gwartheg yn gallu sathru llystyfiant a chymryd brathiadau mwy, llai penodol, wrth bori, ac mae anifeiliaid llai sy’n cnoi cil - fel defaid, yn llawer mwy detholus ac yn sathru’n ysgafnach. O gyfuno’r ffactorau hyn, gallent gael effeithiau buddiol, o ran cynhyrchiant ac hefyd o ran ansawdd y cynefinoedd a’r fioamrywiaeth.

Mae ymchwil i systemau naturiol sy’n cynnal nifer o rywogaethau llysysol ar yr un pryd, wedi dangos bod gwahanol rywogaethau anifeiliaid yn cael eu dylanwadu gan y mathau o lystyfiant mewn amrywiol ffyrdd. Canlyniad y mecanwaith hwn yw sefyllfa lle mae rhywogaethau llysysol yn defnyddio’r amgylchedd yn wahanol mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt gyd-bori. Mae’r holl anifeiliaid sy’n pori’n dangos ymddygiad dethol wrth fforio. Bydd nifer o ffactorau’n effeithio ar y ffordd y maen nhw’n dewis planhigion a rhannau o blanhigion wrth fwyta, gan gynnwys nodweddion maethol ac efallai feddyginiaethol y porthiant. Un ffactor allweddol sy’n gwahaniaethu llysysyddion mawr oddi wrth rai bach yw’r egni y mae’r porthiant yn ei gynnwys. Mae angen i’r llysysyddion llai gael mwy o egni fesul uned o faint eu cyrff, ac mae angen i borwyr mwy gael mwy o egni yn gyffredinol (wedi ei ddiffinio gan gymhareb gofyniad metabolaidd:perfedd MR/GC). Felly, mae llysysyddion llai yn fwy detholus fel arfer (yr ansawdd sy’n bwysig) ac mae llysysyddion mwy yn gallu bwyta meintiau mwy o ffibr (y maint sy’n bwysig).

Mae’n bosib y bydd tir glas sydd wedi ei drin yn cynnig llai o gyfle i’r anifeiliaid ddethol rhwng planhigion wrth fforio, a gallai hynny ei gwneud hi’n llai buddiol o bosib i roi gwahanol anifeiliaid i bori ar y tir hwn. Fodd bynnag, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd fel hyn, mae buddion i’w cael o hyd mewn perthynas â chynyddu’r defnydd a wneir o’r borfa a ffactorau fel gostwng beichiau parasitiaid.

 

Effeithiau pori cymysg ar gynhyrchiant

Mae rhoi anifeiliaid fel defaid a gwartheg i bori ar yr un pryd, neu un ar ôl y llall, yn gallu cynnig buddion o ran y potensial i gynhyrchu’n gyffredinol. Mae’r cynnydd hwn mewn perfformiad yn digwydd o ganlyniad i nifer o ffactorau sy’n gallu digwydd ar yr un pryd a rhyngweithio i gynnig budd cyffredinol.

O ran gwella’r defnydd a wneir o’r tir pori, bydd gwartheg yn porthi ar lystyfiant y mae defaid yn mynd ati’n bwrpasol i’w osgoi, gan gynnwys y porthiant mwy aeddfed sy’n blasu’n ddrwg i ddefaid. Mae hyn felly’n gwneud gwell defnydd o’r holl fiomas llystyfiant sydd ar gael. Mae’n haws i wartheg hefyd fynd i mewn i ddarnau mawr o lystyfiant aeddfed y byddai defaid fel arfer yn eu hosgoi a gallai’r aflonyddu hwn ar y tir arwain at ail dwf porthiant mwy blasus y gall defaid wedyn ei ddefnyddio. Mae gwartheg a defaid fel ei gilydd yn osgoi pori yn agos at dir lle mae baw eu rhywogaethau eu hunain, ond bydd defaid yn pori’n agos at dir o faw gwartheg, ac mae hyn yn cynyddu’r defnydd a wneir o’r tir pori. Trwy fecanweithiau fel hyn, gwneir defnydd mwy cytbwys o’r borfa ac mae’n gwella effeithiolrwydd y pori.

 

Disgrifiwyd rhai manteision hefyd o ran lleihau’r baich parasitiaid gastroberfeddol, ond mae hyn yn amrywiol ar draws y gwahanol amgylcheddau a’r gwahanol fathau o rywogaethau. Y rheswm y mae’n lleihau’r baich parasitiaid yw ei fod yn amharu ar gylchoedd bywyd y parasitiaid, gan ostwng y llwyth cyffredinol ar dir pori. Adroddwyd bod pori gwartheg a defaid un ar ôl y llall yn effeithiol am ostwng beichiau parasitiaid mewn ŵyn yn y cyfnod ar ôl diddyfnu, ond nid oes tystiolaeth glir i ddangos bod y dull hwn yn effeithiol ar yr un tir pori yn y tymor hir (nifer o flynyddoedd). Yn ogystal, yn yr un astudiaeth, roedd perfformiad ŵyn yn well pan oedd gwahanol anifeiliaid yn pori ar yr un pryd yn hytrach nag un ar ôl y llall, gan awgrymu mai dim ond un elfen sy’n effeithio ar botensial cynhyrchu cyffredin defaid yw dylanwad y parasitiaid.

Adroddwyd am fuddion tebyg mewn sefyllfaoedd pori cymysg eraill. Dangoswyd bod ceffylau a roddir i bori gyda gwartheg yn dioddef llai o haint llyngyr y ceffylau, sy’n broblem fawr i fridwyr ceffylau, a phan fyddai geifr yn pori ochr yn ochr â gwartheg byddai llai o heintiau parasitiaid yn gyffredinol i’r ddwy rywogaeth. Fodd bynnag, mae astudiaethau eraill wedi canfod nad yw geifr yn cyd-bori gyda gwartheg yn cael unrhyw ddylanwad ar ddata am nifer yr wyau ymgarthol, felly mae’n debyg bod amrywiaeth o safleoedd a ffactorau amgylcheddol yn chwarae rhan allweddol.

O siarad yn gyffredinol, mae defaid yn well am fanteisio ar y buddion sydd i’w cael o gael eu gosod gyda gwartheg mewn systemau cymysg. Yn wir, mewn rhai amgylchiadau, gallai’r manteision a ddisgwyliwn o fagu defaid gyda gwartheg mewn systemau pori cymysg gael effaith niweidiol ar gynhyrchiad gwartheg os yw’r ddwy  rywogaeth yn dechrau cystadlu â’i gilydd. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, nid yw datblygiad y defaid yn cael eu heffeithio ond gwelir bod datblygiad y gwartheg yn gallu mynd yn gyfyngedig, gan awgrymu bod llysysyddion mwy yn cael eu heffeithio’n gryfach gan newidiadau yn uchder a chyflwr y borfa.

 

Effeithiau pori cymysg ar fioamrywiaeth

Mae anifeiliaid pori llai, fel geifr a defaid, yn ddetholus iawn o ran y porthiant y maent yn ei ddewis, a gall hyn gael dylanwad niweidiol ar gyfansoddiad cymuned y glaswelltir. Am eu bod dan bwysau wrth i’r anifeiliaid ddewis eu bwyta yn lle planhigion eraill, gall nifer y mathau o blanhigion y maent yn eu ffafrio ostwng yn enfawr, gan leihau’r amrywiaeth o blanhigion sydd ar gael yn lleol. Gall hyn hefyd ostwng safon y borfa, am fod y rhywogaethau sy’n weddill yn llai ffafriol ac felly’n llai dymunol o ran ansawdd y porthiant.

Un esiampl o’r effaith hon yw lledaeniad mathau anffafriol o laswellt yn ucheldiroedd Cymru, fel glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea) a chawnen ddu (Nardus stricta). Mae’r ail o’r rhain yn laswellt garw y mae defaid yn ei osgoi am fod llawer o silica ynddo sy’n gwisgo eu dannedd. Dros amser, pan fydd yr anifeiliaid mewn systemau defaid yn unig yn osgoi’r glaswellt yma, mae’n dod yn fwy cystadleuol ac felly mae mwy ohono i’w gael mewn porfeydd tir pori uchel, er anfantais i’r porfeydd hynny.

Mae cyflwyniad llysysyddion mwy, fel gwartheg, i mewn i’r systemau hyn yn gallu gostwng yr effaith hon. Mae gwartheg yn borwyr llai detholus ac maent yn fodlon pori Molinia a Nardus. Bydd eu sathriad mawr a thrwm yn gwahanu’r twmpathau o Molinia a Nardus hefyd, gan ostwng yr eithrio cystadleuol a chynyddu amrywiaeth y blodau ac ansawdd y cynefinoedd.

Mae astudiaethau sydd wedi ystyried effaith pori ar amrywiaeth y llystyfiant wedi dangos bod cysylltiad yn bodoli gyda’r math o lysysydd a’r math o amgylchedd, yn annibynnol ac wrth ryngweithio. Mae’r ddau brif fodel rhagfynegi (Damcaniaeth Ymyriad Canolig, a model Milchunas–Sala–Lauenroth (MSL)) yn dangos bod dwysedd pori rhanbarthau gwlyb yn creu ymateb ‘siâp crwm’ yn amrywiaeth y planhigion, sy’n awgrymu bod y maint gorau o bwysau gan lysysyddion i’w gael o bosib mewn amgylcheddau fel ucheldiroedd Cymru. Felly, mae pwysau a dwysedd y pori’n elfen reoli allweddol ar amrywiaeth y planhigion – waeth pa borwr sydd yno – ond mae hefyd yn debygol o fod yn ddibynnol ar newidynnau amgylcheddol fel y cyfraddau glawiad lleol.

Mae systemau pori cymysg hefyd yn achosi mwy o heterogenedd strwythurol yn y llystyfiant na systemau pori unigol, oherwydd yr amrywiaeth yn nodweddion dethol a phori gwahanol lysysyddion. O ganlyniad, gall hyn gynyddu argaeledd y cynefinoedd (neu’r micro-gynefinoedd), ac mae hynny’n gallu gwella lefelau’r fioamrywiaeth yn gyffredinol drwy ddarparu mwy o adnoddau. Mae gwartheg, er enghraifft, yn creu proffil porfa anghytbwys twmpathog, ac mae defaid yn pori’n fwy cytbwys. Mae’r amrywiaeth hwn yn strwythur y borfa ar ôl pori’n cynnig amrywiaeth o wahanol ficro-gynefinoedd ar gyfer rhywogaethau di-asgwrn-cefn, sy’n gallu cynyddu presenoldeb yr organebau hyn.

 

Crynodeb

Mae defnyddio dulliau pori cymysg yn gallu gwella’r rheolaeth ar dir pori a chynhyrchiad da byw ar yr un pryd. Mae defaid a gwartheg yn pori ar yr un pryd neu un ar ôl y llall yn cynyddu’r defnydd a wneir o’r tir pori, cyfraddau twf yr anifeiliaid, ac yn gostwng beichiau parasitiaid, yn arbennig mewn defaid. Mewn glaswelltir heb ei wella, fel porfeydd tir uchel Cymru, mae’n gallu gwella amrywiaeth y rhywogaethau glaswelltir a gostwng y goresgyniad gan rywogaethau glaswellt anffafriol sy’n llai blasus i’r anifeiliaid. Gall hefyd ostwng mantais gystadleuol y planhigion hyn mewn systemau defaid yn unig.

Felly, mae pori cymysg yn strategaeth fanteisiol i wella potensial systemau glaswelltir Cymru er mwyn gwella cynhyrchiant heb gynyddu dwysedd amaethyddol, a gostwng y posibilrwydd o golli bioamrywiaeth mewn glaswelltir tir uchel sydd heb ei wella.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth