22 Gorffennaf 2024

 

Mae fferm ddefaid a bîff bumed genhedlaeth yng Nghymru wedi datrys penbleth olyniaeth drwy ddod â ffermwr ifanc i mewn i’r busnes fel partner.

Mae teulu Ben Ryder wedi bod yn ffermio Maesmachreth, fferm ucheldir ger Machynlleth, ers dwy ganrif.

Gan nad oedd gan y naill na'r llall o'u merched ddiddordeb mewn rhedeg y fferm, roedd gan Ben a'i wraig, Kate, ansicrwydd ynghylch ei dyfodol.

“Mae teulu Ben wedi bod yn ffermio yma ers 200 mlynedd a chyda hynny’n daw cyfrifoldeb mawr, doedden ni ddim eisiau bod y genhedlaeth sy’n gadael iddo fynd,” meddai Kate.

“Rydym wastad wedi ei hystyried yn fferm dda a doedden ni ddim eisiau iddi fynd yn wastraff.''

Wrth iddyn nhw nesáu at eu chwedegau a chyda chyfnodau o salwch, maen nhw'n cyfaddef eu bod wedi “chwythu plwc'' a bod hynny'n dechrau effeithio ar y fferm.

“Sylweddolon ni nad oedden ni mor annistrywiol ag yr oedden ni'n meddwl oedden ni,'' meddai Ben. “Nid yw ffermio yn fath o beth y gallwch chi sefyll yn stond arno, pan fyddwch chi'n gwneud hynny rydych chi'n mynd am yn ôl ac roedden ni'n gweld hynny'n dechrau digwydd.''

Ceisiasant gyngor ar olyniaeth drwy Cyswllt Ffermio – gall ffermwyr cymwys drefnu cyfarfod un-i-un wedi’i ariannu’n llawn gyda chyfreithiwr arbenigol mewn cymhorthfa ‘Cynllunio Olyniaeth’.

“O hynny, fe wnaethon ni gyfyngu ar ein hopsiynau,” meddai Ben.

“Roedden ni’n teimlo y byddai’n anodd gosod y lle ar rent a pharhau i fyw yma a doedden ni ddim yn barod i gerdded i ffwrdd yn gyfan gwbl, roedden ni dal eisiau cymryd rhan.

“Fodd bynnag, roedden ni eisiau mwy na gweithiwr fferm, rhywun a oedd yn barod i wneud ymrwymiad ar gyfer y tymor hwy.''

Rhaglen Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio a roddodd yr ateb.

Mae Dechrau Ffermio, gwasanaeth paru sydd wedi'i gynllunio i baru tirfeddianwyr sy'n dymuno camu'n ôl o'r diwydiant gyda newydd-ddyfodiaid, yn cynnig cyllid ar gyfer cynllunio busnes ac arweiniad cyfreithiol.

Cynigiodd y teulu Ryder eu hunain fel darparwr a bu Cyswllt Ffermio yn hyrwyddo’r cyfle hwn.

Yn y pentref cyfagos, yn Ninas Mawddwy, daeth y cyfle hwnnw i sylw Ynyr Pugh, a oedd wedi ei fagu ar dyddyn ac yn uchelgeisiol i gael ymsefydlu ym myd ffermio.

Ar ôl astudio yng Ngholeg Glynllifon a Choleg Amaethyddol Cymru, roedd wedi treulio amser yn cneifio defaid yn Seland Newydd a Chymru ac wedi gweithio ar wahanol ffermydd.

Roedd rhai o'i ffrindiau wedi cael eu paru â ffermwyr yn llwyddiannus trwy Dechrau Ffermio.

“Cefais fy nghyfareddu gan Dechrau Ffermio ond roeddwn am gael fy lleoli'n agos at adref os yn bosibl a hyd nes y daeth y cyfle ym Maesmachreth, doedd dim cyfleoedd lleol wedi dod i’r amlwg,'' eglura Ynyr.

Rhoddodd broffil i'r teulu Ryder o'r hyn y gallai ei gynnig.

Roedd ymhlith sawl ymgeisydd ond ef oedd yr un a diciodd bob blwch ar gyfer y pâr.

“Mae gennym ni feddwl tebyg iawn, rydyn ni eisiau ffermio yn yr un ffordd a gwneud y fferm yn fwy gwydn trwy leihau ein dibyniaeth ar ffactorau allanol,” meddai Ben.

Talodd arian gan Dechrau Ffermio am gynllunio busnes a’r ffurfioldebau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â llunio’r cytundeb.

Fel cam cyntaf, bu Ynyr yn gweithio gyda Ben a Kate fel contractwr, i ganiatáu amser i’r ddwy ochr ddod i adnabod ei gilydd yn well cyn ymrwymo ymhellach.

Ar 1 Ebrill 2024, fe wnaethant gymryd y cam nesaf, gan wneud Ynyr yn bartner busnes gyda chyfran partneriaeth o 34%; mae gan y ddau ohonyn nhw 33% yr un.

Dros yr wyth mlynedd nesaf, bydd Ynyr yn caffael 1% ychwanegol yn flynyddol ac wedi hynny, bydd yn dod yn brif gyfranddaliwr y fferm.

Pan fyddant yn cyrraedd y pwynt hwnnw, byddant yn edrych ar sut y gallai’r sefyllfa ddatblygu, megis drwy Denantiaeth Busnes Fferm.

Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Ynyr a’r teulu Ryder.

“Rydym yn llawer mwy brwdfrydig dros ffermio ers i Ynyr ymuno â ni,'' meddai Kate.

Cymaint fel eu bod eisoes wedi gwneud newidiadau i'r ddiadell ddefaid a'r fuches sugno ac yn cynyddu nifer y mamogiaid a'r gwartheg.

Defaid Texel croesfrid oedd y ddiadell yn bennaf ond nid hwn oedd y brid gorau ar gyfer y math yma o dir, sy'n codi i 1,200 troedfedd ar ei bwynt uchaf.

Gyda dylanwad Ynyr, mae defaid Romney x Aberfield wedi’u cyflwyno, gan alluogi’r ddiadell i symud tuag at system wyna awyr agored. Mae niferoedd wedi cynyddu o 600 o famogiaid i 700.

Mae newidiadau yn y fuches sugno hefyd; mae gwartheg Stabiliser wedi'u cyflwyno i gymryd lle gwartheg â geneteg groes Limousin.

Mae yna gynllun i dyfu maint y fuches o'r 90 o wartheg presennol hefyd. “Mae'r Stabiliser yn frid llai felly gallwn gadw ychydig mwy ohonyn nhw yn yr un ardal,'' meddai Ben.

Mae Ynyr yn ddiolchgar i Ben a Kate am ei helpu i wireddu ei uchelgais i ffermio ac i Cyswllt Ffermio am ddarparu’r llwyfan a alluogodd hynny.

“Mae Dechrau Ffermio yn cadw pobl yn y diwydiant ac yn dod â newydd-ddyfodiaid i mewn,'' meddai.

Roedd wedi edrych ar rentu fferm ond nid oedd ganddo'r cyfalaf yr oedd ei angen arno i ddechrau arni ac roedd yn cystadlu yn erbyn busnesau presennol am y cyfleoedd hynny.

Mae'n disgrifio Dechrau Ffermio fel gwasanaeth sy’n sicrhau bod pawb ar ei ennill.

Dywed Ben a Kate efallai na fydd eu sefyllfa yn darparu glasbrint i bob ffermwr. “Mae pob system yn mynd i fod yn wahanol,'' meddai Kate. “I ni, roedd yn bwysig bod yn rhaid cael cyfnod prawf, cyfle i weithio gyda'n gilydd yn ddigon hir cyn mynd â'r peth ymhellach.''

Mae cyfathrebu a bod yn agored o'r cychwyn cyntaf yn allweddol, ychwanega Ben. “Mae angen ymddiriedaeth o'r cychwyn cyntaf.''

Mae Ynyr, sy’n gweld dyfodol disglair ym myd ffermio, yn annog eraill i ddefnyddio Dechrau Ffermio.

“Siaradwch gyda phobl Cyswllt Ffermio, dywedwch wrthyn nhw beth hoffech chi ei gael o'r sefyllfa,'' mae'n cynghori.

“Roedd gen i'r holl hanfodion i redeg fferm ond nid oedd gennyf y tir i'w defnyddio.''

Mae wedi ennill cryn dipyn o wybodaeth o raglen rheoli glaswelltir Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ac mae hefyd wedi elwa o raglen Fentora Cyswllt Ffermio gyda’r ffermwr defaid, Meirion Jones yn fentor.

Mae ef a Ben hefyd yn aelodau o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio ac wedi gwneud defnydd da o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ar ffermydd 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio.

“Mae cael syniadau gwahanol gan wahanol bobl yn bwysig iawn,'' mae Ynyr yn meddwl. “Does dim pwynt gwneud yr un hen beth os nad yw rhywbeth yn gweithio a disgwyl canlyniad gwahanol, mae angen i chi newid y system drwy'r amser.''


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gwybodaeth a gafwyd gan fentor Cyswllt Ffermio yn cryfhau busnes fferm
03 Gorffennaf 2024 Gyda mentora gan ffermwr profiadol, mae
Diadell o ddefaid mynydd sy’n rhan o Raglen Geneteg Defaid Cymru yn pesgi ŵyn bythefnos yn gynt na’r arfer
26 Mehefin 2024 Mae ŵyn a gynhyrchir gan ddiadell o ddefaid
Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites