23 July 2024

 

Cyswllt Ffermio yn lansio ymgyrch i recriwtio grŵp Agrisgôp newydd fydd yn chwarae rhan mewn datblygu’r cysyniad o ddefnyddio gemau er mwyn hwyluso olyniaeth fferm.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae Cyswllt Ffermio wedi cefnogi 183 o deuluoedd fferm yng Nghymru ar y mater hollbwysig hwn.  Fel arfer yn ymestyn dros ddwy genhedlaeth neu fwy, mae ffermwyr wedi cael eu cefnogi a’u hannog i gynllunio’n gynnar ar gyfer trosglwyddiad treth-effeithlon a didrafferth o asedau i’r genhedlaeth nesaf – y rhai fydd yn chwarae eu rhan yn nyfodol busnesau fferm cynaliadwy Cymreig.

Bydd caffi gemau wedi ei leoli ar stondin Cyswllt Ffermio (Rhodfa K) yn Sioe Frenhinol Cymru ar y Dydd Mawrth a’r Dydd Mercher a bydd cyfle i ffermwyr a rhanddeiliaid rannu syniadau ar gyfer cyd-ddylunio gêm mewn digwyddiad am 11:30yb ddydd Mercher 24 Gorffennaf.

Bydd Mentera (yr enw newydd ar Menter a Busnes) sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn archwilio’r potensial i ychwanegu at ei becyn cymorth olyniaeth presennol, sy’n cynnwys cyfarfodydd teuluol wedi’u hwyluso, mentora a chyngor cyfreithiol gydag elfen newydd - 'gêm olyniaeth' a gynllunnir i gael y teulu cyfan i siarad a chynllunio ymlaen.

Bydd yr Arweinydd Agrisgôp Jacqui Banks, yn lansio’r ymgyrch i recriwtio aelodau ar gyfer ei grŵp diweddaraf, a fydd â’r dasg o ymchwilio a datblygu’r cysyniad ar gyfer y gêm gydweithredol newydd.  Agrisgôp yw rhaglen datblygiad personol poblogaidd Cyswllt Ffermio sy’n defnyddio dulliau ‘dysgu gweithredol’ arloesol i helpu busnesau fferm i addasu a ffynnu.

Yn ymuno â Jacqui bydd dau ddylunydd gemau a gydnabyddir yn rhyngwladol, Matteo Menapace a Hwa Young Jung, sy'n arbenigo mewn cynhyrchu gemau bwrdd  sy'n mynd i'r afael â materion cymdeithasol cymhleth.   Bydd y ddau yn trafod y potensial i gemau ddylanwadu ar newid ymddygiad trwy fynd i'r afael â phroblemau 'byd go iawn'.  Yr hydref hwn byddant yn gweithio gydag aelodau grŵp Agrisgôp newydd Jacqui trwy gyfres o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein i ddatblygu’r cysyniad a phontio rhwng pwnc difrifol cynllunio olyniaeth a’r byd gemau.

“Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn bwnc y mae llawer o deuluoedd yn methu mynd i’r afael ag ef cyn bod goblygiadau difrifol i’r teulu a’r fferm.  

“Mae gan y ddau ddylunydd gêm byddwn yn gweithio â hwy brofiad o ddatblygu gemau cydweithredol gan gynnwys un o gemau mwyaf poblogaidd Matteo, sydd wedi ennill gwobr ryngwladol, sef ‘Daybreak’, sy’n rhoi cyfle i chwaraewyr gael persbectif gwahanol ar newid hinsawdd.

“Yn aml mae yna drafodaethau teuluol o amgylch byrddau cegin fferm, a dyna ble mae llawer o sgyrsiau teuluol eithaf pwysig ond anffurfiol yn digwydd, felly beth gwell na gêm i gael pawb at ei gilydd a siarad” meddai Jacqui.

Os daw'r gêm newydd hon yn realiti, gallai newid y gan i lawer mwy o deuluoedd ffermio yng Nghymru.  

“Galwch draw i’n gweld ni yn Sioe Frenhinol Cymru i ddarganfod mwy am gynllunio olyniaeth ac i gyfrannu i’r broses o gyd-ddylunio’r gêm ac os ydych chi’n cofrestru ar gyfer ymuno â’r grŵp Agrisgôp newydd, fe allech chi ychwanegu sgil newydd ar eich CV – datblygwr gêm!” ychwanega Jacqui.

Bydd Matteo, Hwa Young a Jacqui ar stondin Cyswllt Ffermio trwy gydol Dydd Mawrth a Mercher y sioe. Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad ond eisiau mwy o wybodaeth am ymuno ag Agrisgôp, e-bostiwch jacqui.banks@mentera.cymru neu ffoniwch 07961958806. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdy cyngor gan Cyswllt Ffermio yn gam cyntaf yn y broses o drawsnewid diadell fferm
13 Awst 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Cwpl Cymreig yn Meithrin Hafan i Fywyd Gwyllt
12 Awst 2024 Mae clystyrau melyn o Blucen Felen a blodau bychain
Denbighshire Farm Undertakes Ambitious Woodland Restoration and Planting Scheme
31 July 2024 A farm-based tree management and planting scheme in