12 Awst 2024
Mae clystyrau melyn o Blucen Felen a blodau bychain tebyg i lygaid y dydd y Camri yn gwthio am le ymhlith blodau lliwgar yr haf mewn planhigfa arbenigol sydd wedi’i neilltuo i gynorthwyo adferiad byd natur yng nghefn gwlad Cymru.
Ychydig iawn o brofiad oedd gan Barry a Sandra Stewart o amaethu blodau gwyllt pan sefydlon nhw Celtic Wildflowers ger Abertawe, ond fe wnaethant lenwi bylchau yn eu gwybodaeth trwy dynnu ar gyngor a gwasanaethau rhad ac am ddim sydd ar gael trwy dîm garddwriaeth Cyswllt Ffermio ac maent bellach yn gyflenwyr blaenllaw o tua 300 o rywogaethau.
“Rydym ni'n teimlo ein bod ni wedi cael ein cymryd o dan adain Cyswllt Ffermio, bod gennym ni'r rhwydwaith cymorth bach yma i fanteisio arno pan fydd angen help llaw,'' meddai Barry.
Mae gan y busnes löyn byw Brith y Gors a Thamaid y Cythraul, ffynhonnell fwyd epil y pryf prin hwn, i ddiolch yn rhannol am ei darddiad.
Roedd Barry wedi’i wahodd yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd ecolegol i dyfu’r planhigyn i ddarparu cynefin i’r glöyn byw hwn oedd mewn perygl gan nad oedd unrhyw dyfwyr yn ei gynhyrchu mewn meintiau digonol yng Nghymru.
Tyfodd y teulu Stewart tua 5,000 i’w plannu ar safle ger Hirwaun lle mae Brith y Gors i'w gweld yn naturiol.
“Fe wnaethom ni eu plannu mewn amodau eithaf erchyll yng nghanol y gaeaf a mynd yn ôl i’w harchwilio naw mis yn ddiweddarach a chael ein syfrdanu gan eu goroesiad, roedden nhw nid yn unig wedi goroesi ond roedden nhw wedi blodeuo ac wedi cynyddu gwerth ecolegol y safle, '' cofia Barry.
Gofynnwyd iddo yn fuan i dyfu planhigion ar gyfer peillwyr eraill a oedd yn lleihau, gan gynnwys y Blecen Felen ar gyfer y Glöyn Byw Bach Glas.
“Unwaith i ni ddechrau tyfu, o fewn 18 mis roedd gennym ni 250 o rywogaethau ar y gweill,” meddai Barry.
“Roedd o fel chwyldro, roedd pobl yn dweud “bobl bach, mae pobl yn tyfu planhigion brodorol Cymreig''. Roedd pobl wir yn gefnogol ac fe roddodd yr ysgogiad i ni fynd ymhellach.''
Ar ôl blwyddyn o amaethu rhywogaethau o beillwyr, cyflwynodd y teulu Stewart goed a llwyni ac maent bellach yn tyfu’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau brodorol a geir yng Nghymru.
Maen nhw’n priodoli llawer o’u llwyddiant i’w gweithwyr a’u gwirfoddolwyr, Nancy Minopoli, Laura Norman, Corrinne Bennow ac Angela Reed, a llys-dad Sandra, Jeff Lewis, ac maent hefyd yn canmol tîm garddwriaeth Cyswllt Ffermio dan arweiniad Sarah Gould am gamu i’r adwy pan mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
“Os yw Sarah yn meddwl bod cyfle i ni, bydd hi'n rhoi gwybod i ni ac yn gwneud ei gorau glas i'n helpu ni i gael mynediad i’r cyfle,'' meddai Sandra, cyn athrawes ysgol gynradd.
“Rydym yn teimlo bod gennym bob amser rywun y gallwn droi ato, nad ydym ar ein pennau ein hunain, ein bod yn gysylltiedig â sefydliad mawr sy'n darparu cymorth.''
Dechreuodd y cymorth hynny gyda rhai sesiynau am ddim yn ymwneud â’r rhyngrwyd gydag arbenigwr meddalwedd pan oedd y pâr yn ystyried ailwampio eu gwefan.
Trwy Gymorth Busnes Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, cawsant hefyd ymweliadau wedi’u hariannu’n llawn gan ymgynghorydd ADAS, Chris Creed, pan oedd angen cyngor arnynt ar reoli plâu yn naturiol a maeth planhigion.
Lleolir Celtic Wildflowers ar erw o dir sy’n cael ei rentu gan yr RSPCA yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini, Penllergaer.
Er bod y teulu Stewart wedi cael cynnig cyfleoedd i ehangu, ar ôl pedair blynedd o dwf busnes eu cynllun ar hyn o bryd yw cydgrynhoi a chanolbwyntio ar yr hyn sydd ganddynt.
Mae'r holl blanhigion yn cael eu tyfu o hadau, llawer yn cael eu cynaeafu gyda chaniatâd arbennig gan dirfeddianwyr.
Gyda phob un yn cymryd mwy na chwe mis i dyfu, mae Barry yn cyfaddef y byddai pêl grisial yn ddefnyddiol i ragweld pa blanhigion y bydd cwsmeriaid am eu prynu yn y dyfodol.
Ychydig o blanhigion sydd wedi eu synnu ond mae Carwy Droellennog yn un o ychydig eithriadau.
Mae’n tyfu’n naturiol mewn dau safle yn unig yn y DU, sef meysydd glo De Cymru a Swydd Dumfries, a dyma’r un planhigyn y mae’r teulu Stewart yn ei chael yn anodd ei dyfu.
Ond gyda 300 o wahanol fathau ar werth, wrth ystyried methiannau, dim ond mân fethiant yw hyn.
Wrth iddyn nhw edrych i’r dyfodol, mae Barry, Sandra a’r tîm yn Celtic Wildflowers yn hyderus y gall y gwaith maen nhw’n ei gyflawni wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd.
“Fe ddechreuom ni ein busnes oherwydd ein bod ni’n angerddol am yr amgylchedd ac oherwydd ein bod ni am wneud gwahaniaeth, ac rydym ni’n credu y gallwn ni wneud gwahaniaeth,’’ meddai Sandra.
Gyda'u cymeradwyaeth ysgubol gyntaf yn dod gan un o ieir bach yr haf fwyaf prin Ewrop, nid oes amheuaeth y byddant yn gwneud gwahaniaeth.