Diweddariad prosiect Hafod y Foel - Gorffennaf 2024
Dyluniwyd y llwyfan pori i bori dau grŵp o 40 o loi bîff Wagyu o’r fuches laeth - un grŵp o loi wedi’u diddyfnu’n pwyso oddeutu 150kg ar ddechrau’r tymor pori a grŵp o loi blwydd oed yn pwyso oddeutu 350kg ar ddechrau’r tymor pori. Y nod oedd pori ar ddau gylchdro mewn dwy ardal wahanol: Weirglodd (4.6ha) a Ffridd (9.3ha).
Gan ystyried hinsawdd, iechyd a ffrwythlondeb y pridd, cyfansoddiad y borfa a’r dulliau rheoli glaswelltir arfaethedig, amcangyfrifir y byddai potensial i’r cae dyfu 7.5 tunnell o ddeunydd sych (DM)/ha/y flwyddyn ar gyfartaledd heb fewnbynnau. Felly, yn ystod tymor pori 250 diwrnod o hyd, amcangyfrifir bod potensial i’r ardal bori dyfu 30kgDM/ha/dydd ar gyfartaledd. Dangosir gofynion y grwpiau yn nhabl 1 ac mae hyd y cylchdro a nifer yr anifeiliaid ym mhob grŵp i’w weld yn nhabl 2.
Tabl 1. Gofynion pob system
Tabl 2. Nifer y dyddiau ym mhob padog a bydd cylchdro’n rhoi cyfle i bob grŵp
Cafodd gofynion dŵr hefyd ei gyfrifo ar gyfer y ddau grŵp o wartheg, a nodir yn nhabl 3.
Tabl 3. Cyfradd llif dŵr targed ar gyfer grwpiau o wartheg
Sefydlwyd y llwyfannau pori ym mis Mai fel y gwelir yn ffigur 1.
Defnyddir mesurydd plât Grasshopper i fonitro twf glaswellt yn rheolaidd. Mae’r mesurydd yn llwytho’r holl ddata yn awtomatig i system GrasslandTools, platfform i rannu data pori mewn amser real, sy’n cynnwys gorchudd fferm presennol a’r glaswellt sydd ar gael gyda sawl defnyddiwr. Mae Grasshopper hefyd yn cynnwys nodwedd sy’n mapio’r fferm yn gywir fel bod pob mesuriad yn cysylltu’n awtomatig gyda phob cell heb fod angen mewnbynnu data â llaw.
O ganlyniad i dywydd gwlyb ar ddechrau’r tymor, roedd twf y glaswellt yn fwy na’r galw, ac er mwyn sicrhau bod ansawdd y borfa yn cael ei gynnal, tynnwyd rhai o’r celloedd o’r cylchdro ar gyfer pori defaid. Roedd y tir yn rhy wlyb i ystyried tynnu celloedd allan ar gyfer silwair. Cafodd y lloi hŷn hefyd eu grwpio gyda’r lloi iau i ddwysau’r pwysau ar y borfa er mwyn ailosod a chynnal ansawdd ar gyfer y lloi iau sy’n trosi porthiant yn fwy effeithlon.
Mae’r galw’n gymharol uchel yn y ddau gylchdro, yn enwedig yn y Ffridd. Yn ystod cyfnodau o’r flwyddyn pan nad yw twf yn bodloni’r galw, fel arfer ar gyrion y tymor neu yn ystod cyfnodau sych yn yr haf, bydd angen symud y stoc oddi ar y system gylchdro am gyfnod byr i ymestyn hyd y cylchdro neu dderbyn porthiant ategol. Bydd mesur y glaswellt yn rheolaidd a sicrhau bod digon o laswellt ar gael yn cefnogi’r penderfyniadau rheoli hyn.