29 Awst 2024
Gall poblogaethau chwyn, plâu a chlefydau effeithio’n sylweddol ar gynnyrch tir âr, ond mae un tyfwr o Sir Benfro yn fwy parod i fynd i’r afael â’r effeithiau hyn ers cwblhau cwrs agronomeg, diogelu cnydau integredig a maeth cnydau.
Mae Eurig Jones yn ffermio 1,200 erw yn ardal Boncath gyda’i dad, Wyn, gan dyfu 250 erw o haidd y gaeaf a’r gwanwyn, yn bennaf fel porthiant ar gyfer 500 o wartheg stôr, 80 o wartheg sugno a 1,500 o famogiaid.
Maent hefyd yn tyfu pys a ffa fel ffynhonnell protein amgen yn hytrach na dwysfwyd a brynir i mewn, ac mae 50 erw o borfa barhaol wedi cael ei ail hadu fel gwndwn llysieuol.
“Ein nod yw bod yn gynaliadwy, gan dyfu’r hyn sy’n bosibl heb brynu unrhyw beth i mewn.
Rwy’n credu mai dyma’r ffordd ymlaen i ni fel ffermwyr bîff a defaid,” meddai Eurig.
Mae’n ffermwr profiadol, ond mae’n cyfaddef: “Nid wyf yn credu fy mod yn gwybod popeth. Mae profiad yn un peth, ond mae mwy i’w ddysgu o hyd, ac rydw i’n ceisio gwthio fy hun gan fod gwahanol ffyrdd o wneud pethau bob amser o ran cylchdroi cnydau a dewis beth i’w blannu er enghraifft.”
Gyda’r meddylfryd hwnnw, ym mis Hydref 2023, mynychodd gwrs pum niwrnod BASIS Sylfaenol mewn Agronomeg yng Ngholeg Sir Gar yng Ngelli Aur, gydag 80% o ffi’r cwrs wedi’i ariannu gan Cyswllt Ffermio.
Mae hyn wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddo am bopeth o wahanol ffyrdd i reoli plâu, clefydau a chwyn i asesu a dadansoddi priddoedd â’r llygad.
Mae’r prif broblemau chwyn ar dir Eurig yn deillio o weunwellt blynyddol.
Wrth asesu ei gnydau, mae bellach yn deall sut i ymdrin â rhai o’r problemau hyn ochr yn ochr â chyngor gan ei agronomegydd.
Fe wnaeth y cwrs BASIS ei herio, gan ei ddysgu sut i gael y gorau o’r cnydau y mae’n eu tyfu.
Dywed Eurig y byddai’n bendant yn argymell i eraill gymryd y cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs hefyd – mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr hydref ar agor nawr.
Bu ei fferm, Pantyderi, yn un o ffermydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, a dywed fod y profiad wedi gwella ei ffordd o ffermio.
“Roedd bod yn rhan o’r rhwydwaith yn werthfawr iawn gan fy mod wedi cael treialu syniadau a thechnoleg newydd ac arloesol gan ddysgu ar yr un pryd. Fel dysgwr ymarferol, roedd hyn yn gweddu’n dda iawn i mi.’’
Mae Eurig wedi bod yn cyflwyno arferion adfywiol, gan gynnwys tyfu gwndwn llysieuol, gan gynnwys meillion coch, llyriad, ysgellog, rhonwellt a phlanhigion eraill i besgi ŵyn, a chnydau gorchudd o rêp, maip sofl a chêl ar ôl haidd, prosiectau a gefnogwyd gan gyllid drwy gynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru.
Roedd gwndwn llysieuol yn opsiwn da ar gyfer adfywio priddoedd cleiog gan ddarparu ffynhonnell fwyd â llawer o brotein, ac mae’r ŵyn wedi ffynnu – mewn rhai achosion, gwelwyd cynnydd o 150g i 200-300g mewn pwysau byw (DLWG).
“Roedd hynny’n rhannol pam es i ati i gwblhau’r cwrs BASIS gan fy mod i’n dal i ddysgu gyda gwndwn llysieuol,” meddai Eurig. “Fel ffermwyr, pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth newydd, gellir cau’r bwlch o ran dealltwriaeth gyda gwybodaeth a ddysgir.’’
Mae hefyd yn rhan o ddau grŵp trafod Cyswllt Ffermio, un yn canolbwyntio ar dir âr a’r llall yn canolbwyntio ar ddefaid.
Bu’r grwpiau’n cwrdd pedair neu bum gwaith y flwyddyn, ac mae’n mynychu’r cyfarfodydd gyda meddwl agored.
“Rydw i bob amser yn dod o’r cyfarfodydd gyda syniadau newydd, ac yn ystyried rhoi cynnig ar rai o’r syniadau hynny,” meddai. “Mae’n bwysig mynd i’r grwpiau i gadw eich meddwl yn ffres, os byddwch yn dal i wneud yr un peth ag arfer, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich gadael ar ôl.’’
Dywed Eurig fod y gwasanaethau y mae wedi’u defnyddio drwy raglen Cyswllt Ffermio wedi ei helpu i symud ei fusnes yn ei flaen.
“I mi, mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn wych, ac rydw i wedi dysgu llawer. Mae’n fy ngalluogi i fod yn fwy blaengar – mae’n agor eich meddwl i bethau nad oeddech wedi’i ystyried, ac yn mireinio’r hyn yr ydych yn ei wneud.’’