Pam fyddai Jim yn fentor effeithiol
- Ar hyn o bryd mae Jim yn gyfarwyddwr ar Clynfyw CIC, fferm ofal yng ngogledd Sir Benfro a sefydlwyd yn 2011. Yn Clynfyw maent yn gweithredu prosiectau cefn gwlad amrywiol a blaengar i bobl anabl a bregus, gan eu hysbrydoli a’u cefnogi i ymestyn eu potensial.
- Roedd Jim yn y gorffennol yn ffermwr organig ac mae wedi rhedeg cyfres o brosiectau cyfrifol yn gymdeithasol ar ffermydd gan gynnwys gwyliau hygyrch a phriodasau ‘gwyrdd’ a chynadleddau, mae Jim yn dal i ddefnyddio’r athroniaeth organig ym mhob agwedd o’r fenter. Pwysleisir arferion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd hefyd gyda’r holl aelodau o staff yn cael hyfforddiant addas i gynyddu eu hymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol.
- Fel rhan o’i waith yn Clynfyw, mae wedi helpu i sefydlu dros 20 o ficro-fentrau a chynlluniau fel gwasanaeth gwasgu afalau cymunedol, gwneud siarcol, gwasanaeth garddio, sy’n golygu y gall helpu pobl eraill i dderbyn micro-fentrau a chynlluniau hyfyw yn economaidd gyda phwyslais ar gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
- Yn ddyn busnes profiadol, gall Jim roi cyfarwyddyd ar gynlluniau busnes a strategaethau marchnata. Gan fod ganddo brofiad personol o ddatblygu busnes o’r camau cyntaf i fod yn fusnes cadarn sy’n gallu rhoi tendr am gontractau a grantiau a’u hennill, gall Jim roi cyfarwyddyd os ydych yn cychwyn arni neu yn datblygu eich menter.
- Cyn rhedeg Clynfyw, roedd Jim yn gweithio dramor fel swyddog datblygu criced yn Kenya lle cyflwynodd griced i’r ardaloedd tlotaf o gwmpas Nairobi. Roedd hyn yn gwneud iddo ddeall rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r byd sy’n datblygu ac mae wedi ei helpu i ddatblygu prosiect yn Clynfyw sydd â phwyslais lleol ond effaith byd-eang. Mae Jim yn disgrifio’r rôl hon fel profiad a newidiodd ei fywyd a agorodd ei lygaid i’r sialensiau a wynebir gan bobl o gwmpas y byd yn ehangach.
- Mae rhwydweithiau cymdeithasol a phroffesiynol Jim yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i helpu eraill i greu cysylltiadau perthnasol mewn amrywiol feysydd gwahanol ar gyfer eu prosiectau a’u huchelgeisiau.
- Gan ddod o gefndir amaethyddol, mae gan Jim wybodaeth dda am y sialensiau sy’n wynebu’r gymuned wledig, gan gynnwys y pwysau economaidd a all gael effaith ar iechyd meddwl ffermwyr. Mae mewn sefyllfa dda i helpu eraill yn y maes hwn, gan gydnabod yn benodol y peryglon o gymryd baich gwaith afrealistig.
- Defnyddiodd Jim nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gynnwys cyrsiau hyfforddi mewn arallgyfeirio, rheoli busnes, cymorth cyntaf yn y gwaith, cadw moch a phlygu gwrych i enwi dim ond rhai.
Busnes fferm presennol
- Fferm organig 300 erw, 12 erw yn cael eu defnyddio ar gyfer y ffermio gofal
- 100 erw o goetir a ddefnyddir i wneud siarcol a thorri coed
- Clwt garddwriaethol organig 5 erw yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau tymhorol a ffrwythau gan gynnwys salad, llysiau gwraidd, blodau, rhiwbob a mwy
- Cynllun gwasgu afalau sy’n cael ei redeg yn ystod yr Hydref
- Yn y gorffennol bu’n cadw cenfaint o 10 hwch yn magu allan ond ar hyn o bryd mae’n prynu moch wedi eu diddyfnu i mewn i’w pesgi
- 50 o ieir batri wedi eu hailgartrefu
- Ychydig o ddefaid at ddibenion therapiwtig yn hytrach na rhesymau masnachol
- Pedwar bwthyn oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau (4*Bwrdd Croeso Cymru), ond mae tri yn awr ar gyfer pobl yn byw mewn tenantiaeth â chefnogaeth ac un ar gyfer seibiant a gwyliau teulu
- Dŵr poeth solar, bwyleri biomas a PV
- Tîm o bron i 50 o aelodau staff
Cymwysterau / llwyddiannau / profiad
- 2011 - presennol: Rheolwr Gyfarwyddwr Fferm Ofal Clynfyw
- 2019: Enillydd Prosiect Arallgyfeirio Gwledig Gorau (Cymru a Gogledd Iwerddon), Gwobrau Busnes Gwledig
- 2019: Ail Orau ar gyfer Menter Gymdeithasol, Elusen neu Brosiect Cymunedol Gwledig Gorau (Cymru a Gogledd Iwerddon), Gwobrau Busnes Gwledig
- 2018: Cyhoeddi ei lyfr, ‘Care Farming for Beginners’
- 2017: Gwobr Twristiaeth Werdd
- 2017: Mentor, Care Farming UK
- 2016: Mentor, Renew Cymru
- 2015: Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- 2014: Tystysgrif Teilyngdod Proffesiynol mewn Sgiliau Cwnsela Sylfaenol, BSY Group
- 2013: Twristiaeth Sir Benfro, Mynediad Gorau i Ymwelwyr Anabl
- 2013: Twristiaeth Sir Benfro, Twristiaeth Gynaliadwy
- 2002: Gwobr y Frenhines am Fenter (datblygu cynaliadwy)
- 1998: presennol: Ffermwr a Rheolwr Cyffredinol Canolfan Cefn Gwlad Clynfyw
- 1996:1998: Swyddog Datblygu, Cymdeithas Griced Daleithiol Nairobi
- 1994: 1995: Rolau amrywiol yn ymwneud â chwaraeon
- 1994: 1995: Diploma Ôl-radd mewn Rheoli Hamdden, Prifysgol Dyffryn Tafwys
- 1993: Cwnselydd Gwersyll Haf, Camp Oakhurst, UDA
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Mae’n bwysig gweld ein hunain a’n prosiectau fel rhan o ddarlun mwy. Mae gwerth i’w gael o gydweithio a gweithio gydag eraill yn hytrach na cheisio gwneud popeth ar eich pen eich hun.”
“Mae’n rhaid i chi fod wirioneddol isio ei wneud! Fel arall, beth yw’r pwynt?”
“Peidiwch â cheisio ailddyfeisio’r olwyn; mae ’na rywun arall wedi gwneud hynny yn barod. Siaradwch gyda nhw, dysgwch oddi wrthyn nhw ac addasu eu holwyn at eich diben eich hun.”