Enw
Tony Little
Lleoliad
Trefdraeth, Sir Benfro (yn gweithio ledled Cymru)
Prif Arbenigedd
Organig
Amaeth-amgylchedd
Ffermio adfywiol
Sector
- Garddwriaeth
- Ffermio cymysg
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- 20 mlynedd o brofiad ym maes cynghori a chyfnewid gwybodaeth, gan weithio gyda ffermwyr organig ac amaeth-ecolegol.
- Profiad ymarferol o weithio ar Systemau Defaid Organig yr Ucheldir a Gerddi Marchnad
- Cynghori ar bob agwedd allweddol ar ffermio organig ac amaeth-ecolegol, gan gynnwys: cynllunio i newid i organig; iechyd a ffrwythlondeb y pridd; cylchdroi cnydau; rheoli tail a chompost; rheoli dŵr; rheoli plâu, clefydau a chwyn; asesu effaith carbon; ac integreiddio cnydau garddwriaeth a chnydau âr i systemau da byw
- Mae wedi gweithio’n helaeth ar systemau ffermio ar gyfer cadwyni cyflenwi byr a systemau bwyd lleol, cefnogi newydd ddyfodiaid a helpu ffermwyr profiadol i archwilio goblygiadau newid o gyflenwi archfarchnadoedd
- Hanes o lwyddiant wrth gynghori busnesau bwyd yn y gymuned, gan gynnwys prosiectau Amaethyddol a gefnogir gan y Gymuned
- Perthynas sefydledig gyda’r sefydliadau ymchwil organig ac amaeth-ecolegol allweddol
- Cyfathrebwr medrus
- Bob amser yn cymryd amser i ddeall amcanion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol/teuluol ffermwyr.
- Agwedd cyfannol tuag at ffermio a thyfu
- Meddwl strategol
- Dull dadansoddol o gynghori, gan amlinellu opsiynau’n gryno a dadansoddi costau, buddion a risgiau yn glir.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- MSc Rheoli Plâu, Imperial College Llundain, 1997
- BSc Amaeth a Gwyddor Amgylcheddol. Prifysgol Newcastle Upon Tyne, 1994
- Ymgynghorydd Amaethyddol, Cwmni Ymgynghori Ffermio Cynaliadwy (2015 – Presennol); Cyngor un i un ar bob agwedd ar ffermio organig ac amaeth-ecolegol; Hwylusydd Ymchwil dan arweiniad Ffermwyr; gwerthuso prosiectau.
- Cyfarwyddwr Cynghrair y Tyfwyr Organig 2013 – Presennol
- Cydlynydd systemau bwyd gwydn a lleol, Cynghrair Gweithwyr Tir (2020 – 2023). Helpu ffermwyr a thyfwyr i ddeall cadwyni cyflenwi byr a systemau bwyd lleol, a goblygiadau newid o gadwyni cyflenwi archfarchnadoedd; hwyluso cydweithio rhwng ffermwyr a busnesau bwyd.
- Gweithiwr Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA). Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (2017 – 2019); cefnogi sefydliad a datblygiad prosiectau CSA yng Nghymru.
- Aelod o dîm Canolfan Organig Cymru, Prifysgol Aberystwyth (2001 – 2015); Gwasanaeth Gwybodaeth Trosi i ffermio Organig; Cyfnewid gwybodaeth dan raglen Datblygu Organig Cyswllt Ffermio; Datblygu cadwyn gyflenwi organig;
Awgrym /Dyfyniad
“Iechyd ac amrywiaeth pridd yw’r sylfaen ar gyfer busnesau fferm gwydn, cynhyrchiol a hyfyw.”