Enw

Eoin Murphy

Lleoliad

Sir Fynwy

Prif Arbenigedd

Wedi bod yn gweithio i ADAS fel Ymgynghorydd Amaeth Amgylcheddol ers mis Hydref 2017, ac mae ganddo 14 mlynedd o brofiad o ymdrin â rheoliadau amgylcheddol, digwyddiadau llygredd a phrosiectau adfer. Mae’n arbenigo mewn cynnig datrysiadau ymarferol i’r sector amaeth mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys seilwaith, cydymffurfio gyda rheoliadau, ansawdd dŵr a monitro. Mae wedi cwblhau gwaith prosiect eang gydag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys cwmnïau dŵr, llywodraeth leol, diwydiant preifat, prifysgolion a’r sectorau amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio o fewn tîm Amaeth ADAS sy’n darparu cyngor i ffermwyr ar ran cleientiaid gan gynnwys Cyswllt Ffermio, perchnogion tir preifat a Chwmnïau Dŵr. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar seilwaith fferm, atal llygredd ac asesiadau pridd.

Sector

Isadeiledd fferm, Cyngor a chydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol.

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Ymgynghorydd technegol gydag arbenigedd mewn rheoliadau amaeth amgylcheddol a chydymffurfiaeth, cynlluniau grant amaeth amgylcheddol a rheoli pridd a dŵr.
  • Dyluniadau penodol ar gyfer storio slyri, clampiau silwair, adeiladu llwybrau, dylunio strwythurau sy’n dal dŵr, cyfleusterau storio a defnyddio plaladdwyr, cynaeafu dŵr glaw, dylunio draeniau a dyluniadau SDCau.
  • Darparu adroddiadau o safon uchel i bartneriaid ar isadeiledd a llygredd gwasgaredig o fewn dalgylchoedd allweddol.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BASIS Pridd a Dŵr
  • BSc (Anrh.) Daearyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol
     

Awgrym /Dyfyniad

“Llinyn bêl neu gyngor technegol arbenigol? Fe wna i adael y dewis i chi!!”