Enw
Lowri Jones
Lleoliad
Aberystwyth
Prif Arbenigedd
Rheoli maetholion a Charbon
Sector
Da Byw
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Ymunodd â RSK ADAS ar ôl graddio, ac ers hynny, mae wedi ennill profiad mewn darparu cyngor technegol ym maes da byw a’r amgylchedd i ffermwyr yng Nghymru.
- Mae’n hyderus wrth gyflawni amrywiaeth o waith ar gyfer ffermwyr, gan gynnwys cynllunio rheoli maetholion, adroddiadau archwilio carbon, a hwyluso prosiectau.
- Mae ganddi ddealltwriaeth glir o bolisïau a rheoliadau ffermio cyfredol yng Nghymru a’r newidiadau posibl i bolisïau’r dyfodol o ganlyniad i weithio ar brosiectau ac ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru. Mae ganddi ddealltwriaeth fanwl o’r materion sy’n wynebu’r diwydiant, ac mae’n gallu datrys problemau’n fedrus a gydag empathi.
- Mae Lowri’n teimlo’n angerddol iawn dros amaethyddiaeth ac mae ganddi brofiad uniongyrchol ac ehangach ar draws y sector. Mae ganddi ddealltwriaeth fanwl o systemau rheoli da byw a glaswelltir o ganlyniad i weithio ar y fferm bîff a defaid deuluol.
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc Anrh. Amaeth (Harper Adams)
- FACTS – rhif cyfrif 20097128
- BASIS Pridd a Dŵr
- Siaradwr Cymraeg iaith gyntaf
Awgrym /Dyfyniad
"Byddwch yn agored i syniadau newydd ac i ddysgu am ddatblygiadau rheolaeth a thechnolegol newydd yn y diwydiant a fyddai modd eu gweithredu i helpu i atgyfnerthu eich busnes."