19 Tachwedd 2024
Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o dyfwyr coed Nadolig Cyswllt Ffermio ddosbarthiad pwysig i’w gwneud yn 10 Stryd Downing fis nesaf.
Bydd Evergreen Christmas Trees, sy’n cael ei redeg gan y teulu Reynolds ar Fferm Black House, Trefyclo, yn cyflenwi’r goeden a fydd yn cymryd ei lle y tu allan i gartref y Prif Weinidog eleni.
Daw hyn ar ôl i’r tyfwr gael ei enwi’n Bencampwr Tyfwr Coed Nadolig y Flwyddyn 2024 mewn cystadleuaeth flynyddol a gynhelir gan Gymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain (BCTGA).
Mae Evergreen Christmas Trees yn aelod o Rwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio, un o nifer o rwydweithiau i dyfwyr a gefnogir gan raglen arddwriaeth Cyswllt Ffermio.
Mae'r rhwydwaith hwn yn darparu diwrnodau hyfforddiant, ymweliadau astudio ac opsiynau dysgu ar gyfer yr hyn sydd wedi dod yn farchnad dymhorol broffidiol iawn, i lawer o dyfwyr llwyddiannus.
Yn ôl Rheolwr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Sarah Gould, mae un o’r rhaglenni hyfforddiant wedi’i datblygu i helpu i arwain tyfwyr ar reoli plâu a chlefydau ar gyfer coed Nadolig.
Mae rhaglenni hyfforddiant eraill yn canolbwyntio ar docio, maeth sy'n benodol i'r mathau hyn o goed a llawer o elfennau eraill o'r broses gynhyrchu.
Mae’r rhain i gyd wedi’u hariannu’n llawn a gall busnesau sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gael mynediad atynt.
Dywed Sarah fod dysgu rhwng cymheiriaid, gyda thyfwyr yn ymweld â safleoedd ei gilydd, yn agwedd bwysig arall o fod yn aelod o’r rhwydwaith fel y mae mynediad at gymorth marchnata digidol.
Darperir cyngor ac arweiniad hefyd trwy grŵp Whatsapp.
Gyda rhwydwaith cryf i dyfwyr eisoes ar waith, mae Sarah yn annog eraill i ymuno.
Ar gyfer Evergreen Christmas Trees, mae ymweliad â Stryd Downing ar y gweill.
Bydd y goeden yn cael ei gosod yn gynnar ym mis Rhagfyr a bydd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y tŷ a chwrdd â'r Prif Weinidog os yw ei amserlen yn caniatáu.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i ymuno ag un o 'rwydweithiau i dyfwyr' Cyswllt Ffermio e-bostiwch: horticulture@lantra.co.uk